Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Targedu Tai Amlfeddianaeth yn yr ymgyrch ddiogelwch tân sirol ddiweddaraf

Postiwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd gyda menter newydd sbon, wedi’i anelu at wella diogelwch tenantiaid sy’n byw mewn tai amlfeddianaeth.

 

Bydd y rhai a drwyddedir i weithredu Tai Amlfeddianaeth yn y sir yn derbyn pecyn gwybodaeth sy’n amlinellu’r gwahanol fesurau diogelwch tân a ddylai fod ar waith ganddynt yn diogelu lles eu tenantiaid. Bydd hyn yn cyd-fynd â’r Wythnos Ddiogelwch Tân Genedlaethol sy’n dechrau ar 25 Medi.

 

Mae’r pecyn gwybodaeth yn cynnwys canllawiau ar y dull dianc o eiddo, arwyddion tân a systemau rhybuddio, systemau canfod tân, goleuadau argyfwng, cynnal a chadw a chynhyrchu cynlluniau argyfwng tân.

 

Caiff pob eiddo trwyddedig ei archwilio fel mater o drefn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ac eleni, bydd archwiliadau yn canolbwyntio ar ddarpariaethau diogelwch tân, gan gynnwys systemau larwm tân, drysau tân, llwybrau dianc ac allanfeydd. Bydd yr archwiliadau hyn yn dechrau ym mis Tachwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Warchod y Cyhoedd: “Mae cyfrifoldeb ar bob deiliad trwydded i ddiogelu eu tenantiaid, gan sicrhau fod eu heiddo yn cydymffurfio’n llawn gyda deddfwriaeth diogelwch tân.

 

“Mae llawer mwy o graffu ar faterion diogelwch tân, yn sgil tân tŵr Grenfell a thrasiedïau eraill mwy lleol.  Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pob landlord yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelwch tân, maent o ddifrif ynglŷn â’r cyfrifoldebau hynny ac yn helpu lleihau nifer y marwolaethau mewn tanau yn ein rhanbarth. Drwy gydweithio, gallwn wneud gwahaniaeth”.

 

Dywedodd Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tan, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru: “Mae ein swyddogion diogelwch tan yn gweithio’n agos gyda chyrff sy’n rheoli adeiladau, perchnogion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau fod adeiladau yn cwrdd ag anghenion rheoliadau perthnasol ac rydym yn helpu’r rheiny sy’n gyfrifol i gydymffurfio a goblygiadau cyfreithiol.

 

“Mae hi hefyd yn hynod bwysig fod pobl yn cofio yn union beth i’w wneud mewn tan fel eu bod nhw’n gallu amddiffyn eu hunain a’u teuluoedd - mae hyn yn wir mewn unrhyw fath o adeilad ond yn benodol ar gyfer y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, tebyg i’r rhai dros 60, o dan 5 neu bobl ag anawsterau symud.

 

“Fel gwasanaeth, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i hysbysu perchnogion tai a gwarchod preswylwyr ar draws y sir.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen