Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am ddiogelwch trydanol yn dilyn dau dân yn gysylltiedig â theclynnau pweru ffôn yn Sir y Fflint

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddion pobl am beryglon tanau trydanol yn dilyn dau digwyddiad yn gysylltiedig â theclynnau pweru ffôn yn Sir y Fflint ddoe.

Cafodd diffoddwyr tân o Lannau Dyfrdwy eu galw at eiddo ar Rodfa Sailsbury, Saltney am 11.18 o’r gloch ddoe (dydd Mercher 20fed Medi) i ddiffodd tân mewn ystafell wely a oedd wedi achosi difrod i fatras, carped a dillad. Roedd y preswyliwr i lawr y grisiau ar y pryd, a chafodd wybod bod tân gan ei larwm mwg.

Yn nes ymlaen yr un prynhawn, am 14.50 o’r gloch, cafodd criwiau o Lannau Dyfrdwy a’r Fflint eu galw at dân arall mewn ystafell wely ar Ffordd Caer, Oakenholt. Fe wnaeth y tân achosi 100% o ddifrod tân i’r ystafell wely. Nid oedd neb gartref ar adeg y tân, ond gwelodd cymydog fwg yn dod o’r to a galw 999.

Roedd y ddau dân yn gysylltiedig â theclynnau pweru ffôn wedi cael eu gadael ymlaen ond heb fod wedi’u plygio i ffôn.

Dywedodd Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r digwyddiadau yma’n tynnu sylw at berygl tanau trydanol – gallan nhw ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

“Peidiwch byth â gadael pethau’n pweru neu heb gadw golwg arnynt am amser hir  – a gwnewch yn siŵr fod y plwg i’r pwerydd wedi diffodd hyd yn oed os nad yw’n gysylltiedig â’ch ffôn / eitem drydanol. Peidiwch byth â chyfnewid pwerwyr –  dylech ddefnyddio’r pwerydd a gawsoch gyda’r eitem.

“Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwyr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydanol, a diffoddwch nhw a thynnu’r plwg allan cyn i chi fynd i’r gwely.

“Rydym yn eich cynghori i fod mor barod â phosibl rhag ofn y bydd tân, a hynny drwy wneud yn siŵr fod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosibl. Mae’r rhybudd cynnar gan larwm wg yn ystod y digwyddiad yn Saltney wedi sicrhau bod y preswyliwr wedi gallu gweithredu’n gyflym a galw 999, gan atal y tân rhag lledu.

"Dyma rai camau syml i’w cymryd er mwyn ceisio atal tân trydanol yn eich cartref:

  • PEIDIWCH â gorlwytho socedi
  • GWIRIWCH a oes gwifrau wedi rhaflio neu dreulio
  • TYNNWCH blwg yr eitemau allan os nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH yr eitemau’n lân ac mewn cyflwr da
  • DADWEINDIWCH y ceblau ymestyn cyn eu defnyddio.

“Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampiau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru – mae’n dweud wrthych os ydych yn gorlwytho eich socedi ac mae’n eich helpu i aros yn ddiogel."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen