Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân rhan amser– Nid oes y fath beth â Diffoddwr Tân ‘arferol’

Postiwyd

Yn dilyn yr ymgyrch lwyddiannus y llynedd i recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser (RDS)/Ar-alwad, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto’n galw ar i gymunedau lleol ei helpu i gefnogi ei waith drwy ofyn i bobl sydd yn byw neu weithio o fewn 5 munud i’w gorsaf dân leol ymgymryd â’r her ac ystyried yr yrfa gwerth chweil hon.


Mae’r gwasanaeth tân ac achub eisiau recriwtio Diffoddwyr Tân RDS/Ar-alwad yn nifer o’i 44 o orsafoedd tân ac mae’n awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân yn eu gorsaf leol.


Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gofyn ar i gyflogwyr lleol gefnogi’r ymgyrch yn eu cymuned drwy siarad gyda’u staff am rôl y Diffoddwr Tân RDS/Ar-alwad, a rhyddhau staff o’r gwaith pan fo hynny’n addas, ar ddyddiau ac adegau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw, i ymateb i alwadau brys.


Mae Diffoddwyr tân RDS/Ar-alwad yn darparu gwasanaeth tân hanfodol a gwerth chweil yn y gymuned 24 awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Nid oes y fath beth â ‘diffoddwr tân arferol’ - mae ein diffoddwyr tân yn cynrychioli amrediad eang o bobl gan gynnwys adeiladwyr, perchnogion siop, nyrsys, gweithwyr ffatri, rhieni yn y cartref. Maent wedi eu hyfforddi i safon uchel i ddarparu gwasanaeth tân brys hanfodol ar-alwad. Mae rhai diffoddwyr tân yn darparu gwasanaeth o’r cartref, ac eraill o’r cartref ac o’r gwaith a hynny ar adegau amrywiol yn ystod y dydd drwy gydol yr wythnos ac ar benwythnosau.


Roedd yr ymgyrch recriwtio mor llwyddiannus y llynedd fel bod gan rhai o’n gorsafoedd tân restr aros erbyn hyn, sydd yn golygu bod pobl yn aros i swyddi ddod yn wag - fodd bynnag, mae cyfleoedd ar gael yn rhai o’n gorsafoedd ac maent yn chwilio am aelodau newydd o’r tîm.
Mae’r Gwasanaeth felly yn awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd yn byw neu’n gweithio o fewn 5 munud o orsaf dân yng Ngogledd Cymru, yn enwedig gorsafoedd tân gwledig, ac sydd yn awyddus ac ar gael i weithio fel Diffoddwyr Tân RDS/Ar-alwad.


Mae’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gary Brandrick yn egluro “Rydym yn gofyn ar i bobl ar draws y rhanbarth ystyried - allwch chi lenwi’r esgidiau hyn?
“Mae Diffoddwyr Tân RDS/Ar-alwad yn unigolion sydd wedi eu hyfforddi’n dda, gyda sgiliau rhagorol ac maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn. Maent yn achub bywydau ac eiddo rhag tân ac argyfyngau eraill. Maent yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol mewn damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, pan fydd cemegau yn arllwys, mewn llifogydd, tanau mewn coedwigoedd, gweundir ac ar fynyddoedd, a damweiniau amaethyddol.
“Mae cyfle ar gael i bawb sydd gan ddiddordeb yn y rôl gofrestru eu manylion ar ein gwefan erbyn y bydd swyddi gwag ar gael yn eu gorsaf dân leol.


“Os ydy’ch gorsaf leol yn llawn pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn cadw’ch manylion ar restr aros rhag ofn y daw swyddi’n wag. Bydd hyn yn ein galluogi i gwblhau elfennau megis y cais ar-lein, yr asesiad ac anfon gridiau argaeledd er mwyn cyflymu’r broses unwaith y bydd swyddi gwag ar gael.
“Os ydy’ch gorsaf leol yn recriwtio yna byddwn yn cysylltu â chi.


“Rydym yn chwilio am bobl sydd yn frwdfrydig, heini ac a all arddangos ymrwymiad ac ymroddiad - rydym am i’n gweithlu gynrychioli’r cymunedau eang yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac i gefnogi hyn rydym yn cynnal diwrnodau gweithredu positif i helpu grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y rôl.


“Rydym yn darparu timau clos, sydd wedi eu hyfforddi’n rhagorol, ac sydd yn gweithio gydag offer modern a thechnoleg uwch. Mae Diffoddwyr Tân RDS/Ar-alwad hefyd yn gwneud gwaith atal tân i rwystro tanau rhag digwydd yn ein cymunedau.


Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig cyfleoedd datblygu rhagorol a chyfle i ddatblygu mewn rolau rheoli yn y gwasanaeth ac felly mae’n bosib mai dim ond megis dechrau ar eich gyrfa fyddwch chi wrth ymuno â ni fel diffoddwr tân RDS/Ar-alwad.


Ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk i gael gwybod mwy am y rôl ac i gofrestru’ch diddordeb i fod yn Ddiffoddwr Tân RDS/Ar-alwad.
Trefnir nosweithiau agored mewn gorsafoedd tân lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu HRDesk@gwastan-gogcymru.org.uk
Gwyliwch ein fideo i hybu’r ymgyrch recriwtio RDS ar YouTube yma ac yma.


Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf. Rhaid bod ganddynt safon dda o ffitrwydd corfforol a’r gallu i lwyddo mewn profion gallu. Yn ychwanegol at y ffioedd misol a delir, gwneir taliadau hefyd am droi allan, mynychu digwyddiad a nosweithiau ymarfer.


Mae llawer o gyflogwyr yn ymwybodol o’r rôl hanfodol y mae staff gwasanaeth tân ac achub rhan amser yn ei chyflawni yn eu cymunedau lleol ac mae llawer yn rhyddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd tân ac argyfyngau eraill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen