Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân Angheuol yn Ninbych

Postiwyd

Ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i adroddiadau fod tân mewn fflat yn Ninbych ddoe, gan anfon dwy injan dân yno.

Pan gyrhaeddodd y criw, roedd tân wedi datblygu’n fawr yn eu hwynebu a chawsant wybod y gallai fod o leiaf un unigolyn yn dal y tu mewn. Aeth diffoddwyr tân i mewn yn gwisgo offer anadlu, gan achub y ddynes o’r fflat a chredir mai hi oedd y preswylydd.

Bu parafeddygon yn gofalu amdani ac aethpwyd â hi i’r ysbyty mewn ambiwlans. Yn anffodus, bu farw. Mae ein meddyliau gyda ei theulu a’i ffrindiau ar yr adeg hon, ac mae ymchwiliad i’r hyn a achosodd y tân yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen