Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pryderon am ddiogelwch hen ffatri Ferodo

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio ar y cyd achosion o gynnau tanau bwriadol yn y ffatri Ferodo adfeiliedig. Mae angen atgoffa pobl o beryglon ynghylch mynd i safleoedd o’r fath.

Daw’r rhybudd wedi i wasanaethau brys ymateb ddau dân ar wahân yn y ffatri Ferodo adfeiliedig yng Nghaernarfon neithiwr ac yn oriau mân y bore yma (Dydd Mercher 28 Mehefin).

Ers hynny, mae’r ddau ddigwyddiad wedi’u cadarnhau fel cynnau tân yn fwriadol. 

Mae safleoedd adfeiliedig fel yr hen ffatri Ferodo â lefelau uchel o asbestos a sylweddau peryglus eraill.

Mae swyddogion yn annog pobl feddwl am ganlyniadau mynd at agos at ddeunydd peryglus ac adeiladau ansefydlog yn ddiarwybod a chynnau tanau. 

Dywedodd Rhingyll Emma Williams: “Mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r peryglon ehangach cyn i rywun frifo, neu’n waeth. Mae tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol. Bydd y rhai sy’n gyfrifol yn wynebu grym llawn y gyfraith.”

Dywedodd Tim Owen, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol ac Addysg Busnes yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym wedi cael ei galw ddwywaith at y lleoliad hwn yn y 24 awr ddiwethaf. Gwnaethom anfon tair injan dân o Fangor a Chaernarfon am 19:08 neithiwr lle gwnaethom aros tan 20.30. Gyrrwyd pedair injan dân o Fangor, Caernarfon a Phorthaethwy i’r un safle am 04.08 y bore yma ac roeddem yno tan 06.53. 

“Mae tanau bwriadol fel hyn yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau brys ac yn mynd a’n hadnoddau oddi wrth achosion brys gwirioneddol. Mae’n golygu nad yw ein hymladdwyr tân o bosib ar gael ar gyfer tanau sy’n bygwth bywydau a damweiniau ffyrdd mewn mannau eraill.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y tanau yn ffatri Ferodo i gysylltu ag 101 neu fel arall ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen