Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol cadeirydd newydd i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cafodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei ailethol yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun yn gynharach heddiw (dydd Llun 19fed Mehefin).

Mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub ers 1999.

Ar ei etholiad i wasanaethu fel Cadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf, diolchodd y Cynghorydd Davies i’r aelodau am eu cefnogeth a dywedodd: “Rydw i wrth fy modd fy mod i’n cael parhau yn y rôl am flwyddyn arall. Gyda’n gilydd byddwn yn gweithio fel Awdurdod effeithiol i wynebu heriau i’r dyfodol er mwyn sicrhau’r amddiffyniad orau i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru.”

Cafodd y Cynghorydd Peter Lewis MBE, ei ailethol yn Is-gadeirydd.   

Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â’r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: “Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr aelodau. Rydw i a’r Cadeirydd wedi cydweithio’n dda dros y blynyddoedd ac rwyf yn siŵr y bydd hyn o fudd i’r Awdurdod wrth sicrhau y medrwn ddrparu sylfaen gref, nid ar gyfer heddiw’n unig ond hefyd i’r dyfodol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen