Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i gefnogi ymwybyddiaeth o ddementia'r wythnos hon.

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia rhwng 14eg – 20fed Mai a’r nod yw annog pobl i drafod eu pryderon mewn perthynas â dementia.

Yn ddiweddar cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gydnabyddiaeth am fod yn sefydliad sydd yn ‘Gweithio tuag at fod yn Ddementia-Gyfeillgar’, sef yr unig sefydliad yn y rhanbarth i ennill y gydnabyddiaeth hon.  

Fel rhan o’r fenter, mae’r Gwasanaeth yn mynd ati’n rhagweithiol i annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod nhw’n fwy ymwybodol o berthnasau, ffrindiau neu bobol yn y gymuned sydd o bosib yn ddioddef o ddementia, er mwyn eu diogelu’n well.

Mae pobl sydd yn byw gyda dementia mewn mwy o berygl o ddioddef tân oherwydd diffyg canolbwyntio, cof tymor byr, angof a dryswch ynglŷn â sut i ddefnyddio offer. Fe allant hefyd gael trafferthion wrth fynd allan mewn achos o dân neu ddeall beth sydd yn mynd ymlaen.

Mae’r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer’s i helpu pobl sydd yn byw gyda dementia drwy wneud yn siŵr bod staff yn deall mwy am y problemau y mae pobl sydd yn byw gyda dementia yn eu hwynebu. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod gan y gwasanaeth tân system atgyfeirio ar waith.

Mae nifer o staff wedi cwblhau sesiynau ymwybyddiaeth i ddeall y cyflwr yn well a deall sut y gallant gefnogi unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr. Yn ystod archwiliad diogelwch cartref, mae staff y gwasanaeth tân ac achub wedi cael eu hyfforddi i atgyfeirio unigolion a allai elwa o gyngor a chyfarwyddyd pellach gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Yn yr un modd, fe all y Gymdeithas Alzheimer’s hefyd atgyfeirio cleientiaid a allai elwa o archwiliad diogelwch cartref gan y gwasanaeth tân ac achub.

Meddai Llinos Gutierrez-Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Fe all cefnogaeth gan staff, o ganlyniad i gynyddu eu hymwybyddiaeth, wneud gwahaniaeth mawr i’r bobl hynny sydd yn byw gyda dementia.

“Mae iechyd, diogelwch a lles pobl sydd yn byw gyda dementia yn bwysig iawn i ni ac rydym yn falch o gael gweithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s i gefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia ynghyd â’u teuluoedd.

“Rydym ni fel sefydliad yn cydnabod gwerth bod yn sefydliad Dementia-Gyfeillgar oherwydd ein bod yn cydnabod bod mwy a mwy o bobl hŷn sydd mewn perygl o dân hefyd yn byw gyda dementia. Rydym yn gobeithio gweithio gyda sefydliadau tebyg yn y dyfodol i helpu i amddiffyn ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen