Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ffilm fer sydd wedi ei hanimeiddio i hybu pwysigrwydd profi larymau mwg

Postiwyd

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi ymuno â Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam a chanwr a chyfansoddwr adnabyddus o Ogledd Cymru i gynhyrchu ffilm fer wreiddiol sydd wedi ei hanimeiddio er mwyn amlygu pwysigrwydd profi larymau mwg yn rheolaidd.

Cafodd y ffilm ‘Profa Dy Larwm’ ei lansio heddiw yng nghanolfan Catrin Finch ac mae’n cynnwys cymeriadau cartŵn od a’u harferion beunyddiol, a thrac sain bachog sydd wedi ei gyfansoddi a’i berfformio gan y cyfansoddwr a’r canwr Daniel Lloyd.

Ar hyn o bryd mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn annog pobl i brofi eu larymau mwg bob wythnos drwy’r ymgyrch ‘Dydd Mawrth Profi’ ar y cyfryngau cymdeithasol a’r gobaith yw y bydd y ffilm newydd yma’n hybu hyn ymhellach.

Mae chwe myfyriwr o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, sy’n astudio rhaglenni MDes a BA yn yr adran Animeiddio, Effeithiau Gweledol a Chelfyddyd Gemau wedi bod yn cydweithio i ddylunio a chynhyrchu’r hysbyseb tri munud o hyd.

Mae Daniel Lloyd yn actor a chanwr/cyfansoddwr dwyieithog. Daw’n wreiddiol o Rosllannerchrugog, Wrecsam ond y mae bellach yn byw yn Ninbych. Mae’n aelod o’r band Cymraeg Daniel Lloyd a Mr Pinc ac y mae hefyd yn artist unigol ac actor profiadol.  

Daniel sydd wedi cyfansoddi’r trac sain i’r ffilm, a mae myfyrwyr Glyndŵr wedi dylunio’r cymeriadau lliwgar a dod â nhw’n fyw.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Nod y ffilm ‘Profa dy Larwm’ yw rhannu’r neges bwysig yma gyda thrigolion mewn ffordd hwyliog a llawen.

“Mae’n hanfodol bwysig bod pobl yn profi eu larymau mwg yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn. Dro ar ôl tro rydym yn gweld sut y gall larymau mwg achub eich bywyd mewn achos o dân drwy roi cyfle i chi fynd allan.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cyfle i weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr a’r artist lleol, Daniel Lloyd sydd wedi ein galluogi i gomisiynu darn o waith cyffrous ac arloesol sydd am ein helpu i hybu’r neges bwysig yma gyda’r gymuned.”

Fe ychwanegodd Mydrian Harries, Pennaeth Corfforaethol Atal ac Ymateb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae’r hysbyseb ‘Profa dy Larwm’ yn cynnwys cân fachog sydd yn helpu i hybu pwysigrwydd profi larymau mwg – rydym yn gobeithio y bydd y ffilm fer ond effeithiol hon yn ein helpu i wneud yn siŵr bod gan bob cartref larwm mwg sy’n cael ei brofi’n rheolaidd.”

Dywedodd Matthew Jones, Pennaeth Diogelwch Cartref yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Cadw’n cymunedau’n ddiogel yw ein prif flaenoriaeth.

“Rwyf yn gobeithio y bydd y ffilm hwyliog yma’n atgoffa pobl ynglŷn â phwysigrwydd profi eu larymau mwg yn rheolaidd a chofio gwneud hyn fel rhan o’u harferion wythnosol.”

Meddai Marisse Mari, Prif Ddarlithydd Dylunio ac Arweinydd Rhaglenni’r Ysgol Celfyddydau Creadigol: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’r myfyrwyr. Rydym yn annog ein myfyrwyr i weithio ar friffiau go iawn ac mae ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn enghraifft berffaith sydd wedi rhoi profiad proffesiynol iddynt.”

“Mae’r myfyrwyr yn eu hail flwyddyn ac maent wedi gorfod dysgu llawer o sgiliau newydd megis sgiliau meddalwedd a’u rhoi ar waith yn ystod y prosiect gwerth chweil yma.

“Rydym yn gobeithio parhau i feithrin y berthynas dda yma a gweithio gyda’r gymuned leol.”

Fe ychwanegodd Marta Madrid, Darlithydd animeiddio: “Mae’r prosiect yma wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu sgiliau gwaith tîm a strategaethau cydweithio.

“Mae artistiaid bwrdd stori, artistiaid animatig, dylunwyr cymeriadau ac animeiddwyr wedi dysgu sut i ymgymryd â gwahanol gyfrifoldebau fel rhan o’r prosiect, a rhannu llwyth gwaith gyda chyfoedion.

Rydym wedi dysgu sut i gyfathrebu fel tîm, rhannu adborth a chadw mewn cysylltiad ar-lein ac yn ystod gwersi.”

Y tri myfyriwr sydd wedi arwain y gwaith ydi Tim Davies, Thomas Purdue a William Parker. Meddai’r tri: “Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle’n fawr ac rydym wedi mwynhau gweithio ar y prosiect.

“Rydym nawr yn bwriadu sefydlu ein cwmni ein hunain ar ôl cwblhau’r cwrs. Dyma fydd un o’r prosiectau a fydd yn ein helpu i hybu’r hyn sydd gennym ni i’w gynnig..”

Y myfyrwyr eraill a weithiodd ar y prosiect oedd Ellis Roberts, Duncan Adams a Marta Gabiga. Fe ychwanegodd y tri: “Rydym wedi mwynhau creu’r cymeriadau a’r byrddau stori a dod o hyd i atebion doniol er mwyn i’r stori gyd-fynd â geiriau’r trac sain.

“Rydym yn gobeithio y bydd y gwyliwr yn cofio’r fideo ac rydym yn hapus ein bod wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r ymgyrch.”

Mae’r ffilm ar gael i’w gwylio drwy fynd i http://www.nwales-fireservice.org.uk/reasons-to-test/?lang=cy-gb ac y mae hefyd ar gael ar dudalennau You Tube, Twitter a Facebook Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen