Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Agor cangen  Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn Rhuthun

Postiwyd

 

 

Mae cangen Cadetiaid Tân Cenedlaethol newydd, dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar fin agor yn Rhuthun.  

 

Mae’r Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn sefydliad ieuenctid sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaethau Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chymdeithas y Prif Ddiffoddwyr Tân.

 

Nod y cynllun yw creu cymunedau mwy diogel a chadarn trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc ynglŷn â’u cymunedau er mwyn iddynt ddod yn ddinasyddion gwell.  Y mae hefyd yn rhoi cyfle i oedolion wirfoddoli fel y gallant ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol drwy gefnogi’r cadetiaid fel hyfforddwyr lleyg.

 

Mae’r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 13 ac 18 ennill cymwysterau cenedlaethol megis BTEC Lefel 2 yn y pwnc y Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned neu dystysgrifau galwedigaethol mewn sawl maes. 

 

Mae’r bobl ifanc yn cael dysgu sgiliau amrywiol megis gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu ochr yn ochr â sgiliau achub bywyd ehangach er mwyn gwella eu rhagolygon o ran cyflogaeth.

 

Bydd y gangen newydd yn Rhuthun yn cael ei harwain gan y Rheolwr Gwylfa, Rikki Harden, a bydd yn dilyn arweiniad ei gydweithwyr yn Amlwch, Biwmares, y Waun, Conwy, Llanfairfechan, Prestatyn a Phwllheli sydd gan ganghennau sydd wedi hen ennill eu plwyf. 

 

Cynhelir noson agored yng Ngorsaf Dân Rhuthun 7pm Nos Fawrth 30ain Mai a bydd staff ar gael i drafod y rhaglen ac ateb unrhyw gwestiynau.

 

Meddai Rikki Harden, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Rhuthun: “Rydw i’n edrych ymlaen at gael arwain y gangen newydd yn Rhuthun.  Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc gymryd rhan yn y gwaith o amddiffyn ein cymunedau ac ennill sgiliau personol megis arweinyddiaeth, dysgu i weithio fel tîm a magu hyder, wrth weithio tuag at ennill sgiliau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.”

 

Mae Jane Honey, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, yn egluro: "Nod rhaglen y cadetiaid tân yw ymgysylltu â phobl ifanc a’u hysgogi i ddod yn ddinasyddion gwell trwy eu helpu i ddeall eu rôl yn y gymuned.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol ac ar werthoedd megis gonestrwydd, cywirdeb, ac ymddiriedolaeth a pharch gyda’r naill a’r llall.”

 

“Mae’r cadetiaid yn fwy ymwybodol o faterion diogelwch tân ac maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ymarferion tân, ymweliadau, cystadlaethau, diogelwch cymunedol a digwyddiadau codi arian.”

 

"Mae a wnelo lleihau marwolaethau ac anafiadau â mwy na dim ond darparu ymateb brys effeithiol yn unig.  Mae hefyd yn golygu addysgu pobl er mwyn atal y math o ymddygiad sy’n achosi tanau yn y lle cyntaf.”

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o ganghennau’r cadetiaid tân ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Mae canghennau ar gael yn y gorsafoedd canlynol;

 

Amlwch – Nos Lun

 

Biwmares – Nos Fawrth

 

Conwy – Nos Lun

 

Y Waun – Nos Iau

 

Llanfairfechan – Nos Fercher a Nos Iau

 

Prestatyn – Nos Fercher

 

Pwllheli – Nos Fercher

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen