Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau gwair a chors dros y penwythnos 

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn annog pobl i stopio a meddwl am ganlyniadau tanau gwair yn dilyn nifer o achosion dros y penwythnos sydd wedi bod yn draul ar adnoddau.

Am 15.52 o’r gloch ddoe (26 Mawrth) cafodd criwiau eu galw at dân gors sylweddol yn ardal Llantysilio ger Llangollen. Credir ei fod wedi ei achosi wedi i dân a oedd wedi cael ei gynnau dan reolaeth ledaenu.  

Ers dydd Gwener, mae tua 20 o achosion llai yn ymwneud â gwair, gors a rhedyn wedi digwydd yng Ngogledd Cymru – roedd rhai o’r achosion hyn yn fwriadol, rhai o ganlyniad i danau dan reolaeth a oedd wedi lledaenu ac eraill o ganlyniad i ddeunyddiau ysmygu neu danau gwersyll a oedd heb eu diffodd yn iawn. O ganlyniad i’r tanau hyn cafwyd llu o alwadau i’r ystafell reoli gan y cyhoedd. 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:  “Er bod y nifer o ddigwyddiadau yn eithaf bach, mae pob un yn gallu bod yn draul ar adnoddau a’n hatal rhag mynd at ddigwyddiadau eraill lle mae bywydau yn y fantol. 

“Mae’r tywydd sych wedi cynyddu’r perygl o danau mewn ardaloedd gwledig ac fe hoffem ddiolch i’r bobl hynny a gysylltodd â ni i roi gwybod eu bod yn llosgi dan reolaeth a gwneud hynny mewn modd diogel a chyfrifol. 

“Mae’r tymor llosgi yn dod i ben ar 31ain Mawrth ac yn y cyfamser rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni cyn llosgi ar eu tir – yn ystod y tymor llosgi, gofynnwn i dirfeddianwyr roi gwybod i’n hystafell reoli ar 01931 522 006 a nodi lleoliad y tân, bydd hyn yn ein hatal rhag gwastraffu amser ac adnoddau wrth anfon adnoddau at danau dan reolaeth.

“Yn ystod tywydd sych, fe all tanau yn ymwneud â gwair, rhedyn a grug ddatblygu’n gyflym, yn enwedig os bydd y gwynt yn cynyddu, ac o’r herwydd fe all y tanau hyn fynd allan o reolaeth a lledaenu i adeiladau neu goedwigoedd cyfagos, ac mae’n rhaid galw ar y gwasanaeth tân i’w diffodd. 

“Rydym yn annog pobl sydd yn ymweld â chefn gwlad i gymryd pwyll i leihau’r peryglon tân. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar ddeunyddiau ysmygu a’u diffodd yn iawn. Os ydych yn gwersylla, gwnewch yn siŵr bod tanau gwersylla neu farbeciws yn cael eu diffodd yn iawn.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen