Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwnewch i ffwrdd â’ch sosban sglodion yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i wneud i ffwrdd â’u sosbenni sglodion fel rhan o’r ymgyrch ‘Ban the Pan’ yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion (16eg – 23ain Chwefror).

Y llynedd fe aeth diffoddwyr tân at 127 o danau yn y cartref a oedd wedi eu hachosi gan goginio – ac roedd 27 o’r rhain o ganlyniad i sosbenni sglodion.

Mae tanau o’r math hwn yn beryglus iawn - fe all gadael sosban sglodion heb neb i gadw golwg arni fod yn drychinebus gan fod olew yn gallu gorboethi’n gyflym iawn a mynd ar dân.

I amlygu’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio sosbenni sglodion, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ban the Pan’ yn y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon – dilynwch #banthepan ar Twitter a chadwch lygaid am gystadleuaeth ar Facebook @Northwalesfireservice.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae rhai pobl yn cymryd yn ganiataol nad ydy pobl erbyn hyn yn coginio sglodion mewn sosban yn llawn olew poeth, ond rydym ni’n gwybod nad ydi hyn yn wir oherwydd y math o ddigwyddiadau y mae ein criwiau’n cael eu galw atynt.

“Mae’n neges ni’n syml – mae’n hen bryd i chi gael gwared ar eich sosban sglodion! Mae sglodion popty neu ffriwyr iach yn ffyrdd llawer mwy diogel ac iach o goginio sglodion.

“Os ydych chi’n dewis ffrio peidiwch â chael eich temtio i adael bwyd yn coginio. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres, fel nad ydy’r olew yn mynd yn rhy boeth.

“Os ydych chi’n ddigon anffodus i ddioddef tân sosban sglodion, peidiwch â pheryglu’ch hun drwy geisio diffodd y tân eich hun, yn enwedig gyda dŵr – fe allai hyn fod yn beryglus iawn. Ewch allan a galwch 999 "

Dyma air i gall gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ffrio’n ddiogel;

  • Peidiwch â gorlenwi’r sosban gydag olew – byth dim mwy nag un rhan o dair yn llawn
  • Byddwch yn ofalus nad yw’n gordwymo – gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd

  • Defnyddiwch declyn ffrïo dwfn sy’n rheoli tymheredd, a fydd yn sicrhau nad yw’r olew yn mynd yn rhy boeth

  • Peidiwch byth â thaflu dŵr ar dân mewn sosban sglodion

  • Eisiau bwyd ar ôl bod yn y dafarn? Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol

  • Os oes tân, gwnewch yn siŵr bod gennych lwybr dianc

  • Peidiwch â chymryd risg trwy geisio diffodd y tân – ewch allan a ffonio 999

  • Gosodwch larwm mwg a’i brofi’n rheolaidd

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen