Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Addysgu gyrwyr ifanc am ddiogelwch ffyrdd

Postiwyd

Mae chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru (RGC 1404) a myfyrwyr o Goleg Llandrillo, campws Llandrillo-yn-rhos, wedi bod yn dysgu sut i gadw’n ddiogel y tu ôl i’r llyw gyda cherbyd Subaru Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd ar ei newydd wedd.

Bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i ymgysylltu gyda gyrwyr ifanc yn ystod digwyddiadau ac ymweliadau ledled y rhanbarth.

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae a wnelo ein gwaith ni fel gwasanaeth tân â llawer iawn mwy na diffodd tanau yn y cartref yn unig – rydym yn cael ein galw at nifer uchel o wrthdrawiadau ar y ffordd ac rydym yn gweithio’n ddiflino gyda phartneriaid i geisio addysgu gyrwyr ifanc ynglŷn â chanlyniadau angheuol goryrru neu beidio â chymryd sylw wth yrru. 

"Yn 2013 roedd pobl ifanc yn cynrychioli 11% o’r holl ddalwyr trwydded gyrru a 23% o’r holl anafusion ffordd – ac maent yn parhau i fod mewn mwy o berygl nag unrhyw grŵp arall. 

“Rydym yn ceisio rhyngweithio gyda phobl ifanc ledled y rhanbarth mewn colegau, gweithleoedd ac yn ystod digwyddiadau i leihau gwrthdrawiadau traffig a marwolaethau ar y ffordd. 

“Mae ein  cerbyd ymgysylltu Subaru sydd ar ei newydd wedd yn ddeniadol iawn ac yn gerbyd perffaith ar gyfer ein cynulleidfa darged - mae’n ffordd o ymgysylltu a dechrau sgwrs gyda gyrwyr ifanc. Mae’r brand yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yn amlygu’r ‘5 Angheuol’ ac mae’n rhoi cyfle i ni siarad am y pum prif achos dros wrthdrawiadau ffordd  ac anafiadau yng Nghymru - rydym yn erfyn ar bobl ifanc i beidio ag yfed/cymryd cyffuriau a gyrru, arafu, peidio â gyrru’n wyllt, gwisgo gwregys diogelwch a diffodd eu ffôn symudol. 

"Unwaith y byddwn wedi dechrau sgwrs gyda’r bobl ifanc, byddwn yn manteisio ar y cyfle i sôn am eu hagwedd a’u hymddygiad y tu ôl i’r llyw. Rydym hefyd yn defnyddio technoleg newydd megis gogls rhith wirionedd i ddangos sut beth ydi bod mewn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd. 

“Rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda phobl ifanc ledled y rhanbarth gyda’r Subaru, a phwysleisio ein prif negeseuon am bwysigrwydd aros yn ddiogel y tu ôl i’r llyw.”

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen