Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth yn helpu i godi arian ar gyfer diffibriliwr lleol yn Wrecsam

Postiwyd

Yn ddiweddar fe helpodd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i godi arian i brynu diffibriliwr i’r gymuned leol.

Mae triniaeth gyflym yn hanfodol yn achos pobl sydd  wedi dioddef ataliad ar y galon ac felly fe all diffibriliwr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw. 

Mae Neil Upton, Rheolwr Criw Gwylfa Las, Wrecsam, yn egluro:

“Gofynnodd perchennog siop trin gwallt Toppers, Ffordd Gladwyn, Wrecsam a fyddai modd i’r Gwasanaeth helpu i godi arian i brynu diffibriliwr i’w ddefnyddio yn yr ardal leol.

“Awgrymais ymweliad a thaith dywys o gwmpas Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân Wrecsam (AFCRS) fel rhan o raffl, a chafodd hyn ei groesawu’n fawr.

“Llwyddodd yr holl weithgareddau gan gynnwys y raffl i godi bron i £1700. Defnyddiwyd yr arian o’r gronfa hon i brynu diffibriliwr gan y sefydliad Calonnau Cymru.

“Fe wnaeth y ddynes a enillodd yr ymweliad i’r AFSRC yn y raffl roi’r wobr i’w ŵyr 8 mlwydd oed ac fe wnaeth y darpar ddiffoddwr tân yma fwynhau ei ymweliad yn fawr.

“Roedd cefnogi’r apêl yma’n gyfle da i’r Gwasanaeth gysylltu gyda’r gymuned leol a defnyddio’i enw da, ei adnoddau a’i safle mewn cymdeithas i helpu’r  gymuned.”

Mae diffibriliwyr achub bywydau hefyd wedi eu gosod mewn gorsafoedd tân ledled Gogledd Cymru.

Cawsant eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi eu lleoli mewn man amlwg y tu allan i safleoedd y gwasanaeth tân  er mwyn i’r cyhoedd gael eu defnyddio ar unwaith.

I gael manylion ei diffibriliwr lleol, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru neu cliciwch yma.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen