Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân Gogledd ac Achub Gogledd Cymru yn arwyddo Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint

Postiwyd

Yn ddiweddar fe arwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Gyfamod y Lluoedd Arfog Sir y Fflint yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug.

Mae arwyddo'r Cyfamod hwn yn golygu bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymuno â Chyngor Sir y Fflint i ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint.

Roedd cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog, gweithwyr y Cyngor, Swyddogion Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog a Chefnogwr Lluoedd Arfog y Cyngor y Cynghorydd Andy Dunbobbin yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae arwyddo’r Cyfamod yn cynrychioli ymrwymiad cadarn gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog gan gydnabod gwerth milwyr sy'n gwasanaethu – yn cynnwys yr aelodau rheolaidd a rhai wrth gefn, cyn filwyr a theuluoedd milwrol a'u cyfraniad i'r wlad.

Tra’n siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:

 “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno â 18 llofnodwr arall i gefnogi Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint. Mae gennym Grŵp Llywio gweithgar a brwdfrydig ac rydym wedi cymryd camau sylweddol tuag at hyrwyddo’r Cyfamod a sicrhau bod gweithwyr a’r cyhoedd yn ymwybodol o anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.

 “Rydym yn edrych ymlaen i’r Gwasanaeth Tân ac Achub fod yn rhan weithgar ac i gydweithio â ni i godi ymwybyddiaeth am y Cyfamod, anrhydeddu cyflawniadau Cymuned y Lluoedd Arfog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau”.

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân:

 “Roedd hi’n anrhydedd arwyddo’r cytundeb hwn. Ein blaenoriaeth ydi darparu’r gwasanaeth tân ac achub gorau posibl i gymunedau gogledd Cymru gan weithio i leihau nifer yr achosion argyfwng sy’n digwydd ac ymateb i argyfyngau pan fyddant yn digwydd. Ein gweithlu ymroddedig ac amrywiol sydd yn ein galluogi i wneud hyn ac felly rydym yn cydnabod gwerth cefnogi ein gweithwyr o gefndir milwrol, sydd â llawer o sgiliau trosglwyddadwy a gwerthfawr yn sgil eu hyfforddiant milwrol.

 “Mae arwyddo’r cyfamod yma’n dangos ein hymrwymiad i gynnal y prif egwyddorion sy’n ymwneud â gweithio a gweithredu ynghyd â phartneriaid eraill yng ngogledd Cymru i gefnogi’r lluoedd arfog a’i gymuned ehangach”.

Mae’r Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog wynebu unrhyw anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf. Fe arwyddodd Cyngor Sir y Fflint y Cyfamod ym mis Gorffennaf 2013.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen