Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Cartref – lleihau’r posibilrwydd o dân yn eich cartref chi

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn apelio i drigolion gymryd camau syml i leihau’r perygl o dân yn eu cartrefi fel rhan o Wythnos genedlaethol Diogelwch Cartref (1af – 8fed Hydref).

 

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn mynychu nifer sylweddol o danau trydanol bob blwyddyn, ac rydym yn argymell bod deiliaid tŷ yn cofrestru eu cyfarpar trydanol. Mae cofrestru yn beth doeth o ran diogelwch, gan fod cynhyrchwyr, mewn nifer fechan iawn o achosion, yn adnabod problemau gyda chyfarpar ar ôl iddo fod ar y farchnad a chael ei ddefnyddio am beth amser, ac mae angen iddynt gysylltu i gywiro’r diffyg cyn gynted ag y bo modd.

 

“Gall cofrestru hefyd arbed arian trwy gael gwarant estynedig neu gyfnod gwarant hirach. Mae miloedd o bobl yn colli rhybuddion diogelwch nwyddau, gan nad ydynt wedi cofrestru eu nwyddau gwynion, gan gynnwys oergelloedd, rhewgelloedd a pheiriannau golchi dillad.

 

“Wrth ddefnyddio offer megis peiriannau golchi llestri, sychu dillad, cwceri a pheiriannau golchi dillad, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio’n unol â’r cyfarwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys peidio â’u gadael i redeg dros nos neu pan nad oes neb yn y tŷ, os nad ydynt wedi eu dylunio i wneud hynny. Diffoddwch gyfarpar megis teledu wrth y plwg pan ewch i’r gwely.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru cyfarpar, ewch i www.registermyappliance.org.uk ac i gael mwy o wybodaeth am aros yn ddiogel yn eich cartref, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk

 

Medrwch hefyd weld os yw unrhryw rai o’ch nwyddau trydanol wedi eu galw’n ôl trwy fynd i http://www.electricalsafetyfirst.org.uk/

 

Nwyddau trydanol – cynnal a chadw a diogelwch

Cyngor i’ch helpu chi i aros yn ddiogel yn eich cartref:

  • Diffoddwch offer wrth y plwg, lle bo modd, cyn i chi fynd i’r gwely.
  • Peidiwch â gadael peiriannau megis rhai golchi llestri neu ddillad yn rhedeg dros nos neu pan fydd y tŷ yn wag.
  • Os oes gennych offer sydd wedi ei alw’n ôl neu sy’n destun gorchymyn trwsio – peidiwch â chymryd y risg – rhowch gorau i’w ddefnyddio.
  • Gall gosodiad gwael (gall hyn fod mor syml â rhywbeth trwm yn eistedd ar gebl pŵer) a gwaith cynnal a chadw gwael (mor syml â pheidio â dad-rewi’r rhewgell) gynyddu perygl tân.
  • Gall gosodiad amhriodol hefyd gynnwys offer yn cael ei osod mewn adeiladau allanol megis modurdai a siediau lle na ellir cynnal tymheredd amglchynol.
  • Gall gofal da ymestyn oes offer a lleihau perygl tân (er enghraifft glanhau poptai neu ffilteri ac ati).
  • Peidiwch â pharhau i ddenfyddio offer yw’n dechrau gwneud sŵn rhyfedd, yn dechrau ogleuo neu os nad yw’n gweithio’n iawn. Gofynnwch i rywun proffesiynol gael cip arno.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen