Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yng Nghefn Mawr

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn rhybuddio trigolion ynghylch peryglon tân gwyllt yn dilyn tân yng Nghefn Mawr y bore yma (Dydd Llun 23ain Hydref).

Fe aeth diffoddwyr tân o Langollen a Wrecsam at y digwyddiad yn Heol y Plas, Cefn Mawr, Wrecsam am 8.21am.

Roedd dyn a dynes, ynghyd â thri o blant 8, 4 ac 1 mlwydd oed yn yr eiddo ar adeg y tân ond llwyddodd pawb i fynd allan yn ddianaf. 

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamerâu delweddu thermol i ddelio gyda’r tân a oedd wedi ei gyfyngu i’r gegin.

Sefydlwyd bod y tân wedi ei achosi gan dân gwyllt a oedd wedi cael ei gynnau yn yr eiddo gan ddinistrio’r gegin yn gyfan gwbl ac achosi dirfod mwg i weddill y llawr gwaelod a rhywfaint o ddifrod mwg i’r llawr cyntaf. 

Meddai Jess Smith, y preswylydd: “Rydym ni’n ffodus iawn ein bod ni wedi llwyddo i fynd allan o’r eiddo yn ddianaf ac rwy’n cynghori pawb i beidio â chadw tân gwyllt yn y tŷ.

“Plîs peidiwch â meddwl na wnaiff y math yma o ddigwyddiad ddigwydd i chi, achos fe all ddigwydd i unrhyw un yn hawdd iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi addysgu’ch plant am beryglon tân gwyllt. Mewn munud roedd y tân gwyllt wedi ei gynnau a’r gegin wedi ei dinistrio’n llwyr.  

Meddai Tim Owen, o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon camddefnyddio tân gwyllt.  Roedd y tân gwyllt yn hawdd i’w gyrraedd a chafodd ei danio gan blentyn ifanc.  Ein neges yw cadwch dân gwyllt mewn bocs caeedig ymhell o gyrraedd plant yn ogystal â thanwyr a matsis. Mae’r teulu yma’n lwcus iawn na chafodd unrhyw un ei anafu. 

“Mae diogelwch ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn gyfrifoldeb i bawb.  Ni allwn bwysleisio digon mai’r ffordd orau i leihau anafiadau yn ystod y cyfnod tân gwyllt ydi mynd i noson gymunedol.  Maent yn arddangosfeydd diogel gyda chyfleusterau da ac maent yn cynnig gwerth gorau am arian. Yn aml iawn mae dathliadau tân gwyllt yn achosi pryder i bob hŷn a pherchnogion anifeiliaid anwes, ac felly drwy fynd i ddigwyddiadau cymunedol gallwch leihau’r gofid hwn.  

“Ewch i’n gwefan neu dudalennau Facebook neu twitter i weld rhestr o’r arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yng Ngogledd Cymru.

“Os oes raid i chi ddefnyddio tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt.

 Y Rheolau Tân Gwyllt

  • Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.
  • Cadwch y tân gwyllt mewn bocs a chaead arno.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.
  • Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.
  • Sefwch yn ddigon pell yn ôl.
  • Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau.  Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.
  • Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.
  • Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.
  • Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.
  • Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.
  • Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen