Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân angheuol ym Mlaenau Ffestiniog

Postiwyd

Mae ymchwiliad ar waith ar ôl tân angheuol mewn tŷ ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr (9fed Hydref).

Yn fuan ar ôl 8.30pm hysbyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tŷ ar dân yn Nhrem y Benar, Blaenau Ffestiniog.

Defnyddiodd diffoddwyr tân o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog offer anadlu a chwistrell ddŵr i fynd i mewn i’r adeilad, ond yn drist cafwyd hyd i ddynes oedrannus a oedd wedi marw.

Mae ymchwiliad ar y cyd nawr ar y gweill rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i ganfod achos y tân.

Nid oes manylion pellach ar gael ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen