Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pryd ydych chi'n ei wneud e? Her larymau mwg a osodwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru

Postiwyd

Ymgyrch newydd yn bwriadu rhoi rhybudd wythnosol coeglyd i gymunedau Cymru brofi eu larymau mwg

 

Ar draws Cymru'r llynedd (2015-16),  bu dros 1,600 o danau damweiniol mewn anheddau, gyda 69% o'r rhai hynny â larwm mwg gweithiol mewn lle. Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig yn gobeithio newid hwn gyda'u hymgyrch newydd – ‘Pryd ydych chi'n Gwneud e?'  i sicrhau y cedwir cartrefi ar draws Cymru'n ddiogel rhag risg tân.

Fodd bynnag, gyda  bron chwarter (24%) o danau damweiniol mewn anheddau yn yr un cyfnod,  gwelodd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig danau'n cynyddu mewn cartrefi o ganlyniad i larymau mwg yn methu. Felly cred Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru ei fod yn bwysicach nag erioed i gynnwys profi eich larwm mwg o fewn eich arfer wythnosol.

Mae gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru'r prif awgrymiadau canlynol fel pwyntiau bach i'ch cadw'n ddiogel yn eich cartref:

  • * Mae'n bosib taw larwm mwg gweithiol fydd y gwahaniaeth rhwng byw a marw, felly pryd ydych chi'n ei wneud e? Cofiwch mai unwaith yr wythnos ddylai hwn fod.
  • * Os mae'n gwneud sŵn i ddynodi nad yw'r batri'n weithredol mwyach neu fod angen ei newid - gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol eich cynghori.
  • * Mewn achos lle bydd tân yn eich cartref, mae larwm mwg yn rhoi amser i chi a'ch teulu ddianc o'ch tŷ yn gyflym a diogel.
  • * Meddyliwch am eich llwybrau dianc a pha un i'w gymryd pe bai tân yn digwydd yn eich cartref.
  • * Os bydd tân yn cychwyn - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch â chael eich temtio i fynd yn ôl mewn ac ôl anifeiliaid anwes neu eitemau personol.

Dywedodd Matt Jones, Pennaeth Diogelwch yn y Cartref yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am yr ymgyrch, “Dyw cael larwm mwg ar eich nenfwd ddim yn golygu bod eich cartref yn ddiogel rhag tân. Dim ond pan gaiff ei brofi a'i gynnal yn rheolaidd byddwch chi wir yn ddiogel. Pan fyddwch yn ei wneud e, naill ai ar ôl bod i'r gampfa neu cyn ysgol, does dim ots. Ry'n ni dim ond yn argymell eich bod yn gwneud e o leiaf unwaith yr wythnos.

“Fel Gwasanaeth Tân ac Achub, law yn llaw â'n cydweithwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o sut all ein cymunedau ddiogelu'u hunain yn eu cartrefi ac enghraifft o'r ymrwymiad hwn yw'r ymgyrch hon.”

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Corfforaethol Atal ac Amddiffyn, “Yn ein profiad ni, mae’r bobl hynny sy’n marw mewn tân yn y cartref yn cysgu ar adeg y tân. Fe all larwm mwg eich deffro a rhoi cyfle i chi fynd allan a galw am gymorth.

“Yr hyn y mae pobl yn aml yn anghofio yw bod profi eich larwm mwg yr un mor bwysig a chael un. Dim ond larwm mwg sy’n gweithio a all achub bywydau, felly rydym yn ymbil ar bobl Cymru i ddilyn ein cyngor a sicrhau eu bod yn profi nhw.

"I’r sawl sydd heb larwm mwg neu yn gofidio bod nam ar eich un chi, does dim esgus – gallwch drefnu Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref gyda’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol ar gyfer cyngor, sydd yn cynnwys gosod larwm tân, am ddim – ffoniwch 0800 169 1234.”

Ychwanegodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,  “Anelir ymgyrch 'Profwch e' at sicrhau fod pobl yn profi eu larymau mwg yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio.

“Dro ar ôl tro gwelodd ymladdwyr tân gyda'u llygaid eu hunain sut gall larwm mwg eich achub mewn achos o dân. Byddwn yn annog pobl i rannu ein fideo i ledaenu'r neges i gynifer o bobl ag y medrwn ar draws Cymru.”

Rhyddhaodd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig fideo newydd o'r ymgyrch sy'n gofyn i'w cymunedau feddwl ynghylch pryd fyddant yn gwneud e - hynny yw, pryd fyddant yn profi eu larymau mwg - a bydd y Gwasanaethau yn rhannu'r neges hon ar draws Cymru dros y misoedd sy'n dod i leihau nifer y tanau damweiniol mewn anheddau yn eu hardaloedd.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch yn y cartref cliciwch yma

Cliciwch yma i weld y fideo 'Pryd ydych chi'n ei wneud e?' 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen