Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tri tân cerbyd dros nos yn Wrecsam

Postiwyd

 

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i dri tân cerbyd yn ardal Wrecsam dros nos.

 

Am 04.58 o’r gloch y bore yma, Dydd Iau Ionawr 19, derbyniwyd adroddiadau bod dau gar ar dân y tu allan i dŷ ym Maes Hyfryd, Rhosrobin. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy bibell dro ac un set o offer anadlu i daclo’r tân a achosodd ddifrod tân 100% i’r ddau gar a difrod i flaen y tŷ a’r drws ffrynt.

 

Am 05.02 o’r gloch cafodd diffoddwyr tân eu galw i ddigwyddiad arall lle’r oedd car wedi cael ei roi ar dân yn Briarswood, Rhosrobin. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân un bibell dro ac un set o offer anadlu i ddiffodd y tân a achosodd ddifrod i gyntedd a chwteri’r tŷ yn ogystal â’r car.

 

Credir bod y tanau hyn wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae’r math yma o ymddygiad anghyfrifol yn gwbl annerbyniol ac mae’n wyrth na chafodd unrhyw un ei anafu o ystyried pa mor agos oedd y tannau hyn i’r tai.

 

“Mae tanau bwriadol yn fath difrifol o ymddygiad anghymdeithasol ac fe all arwain at ganlyniadau angheuol ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fynd i’r afael â’r broblem.

 

 “Rydym yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth i ffonio 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen