Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy i Ogledd Cymru’ – cyhoeddi manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus

Postiwyd

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn y dasg o’i helpu i gynllunio’r modd y dylai  gwasanaethau tân ac achub yng Ngogledd Cymru gael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

 

Yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, mae’r Awdurdod wedi drafftio amcanion gwella i’w cyflawni o Ebrill  2017 ymlaen, ond cyn mabwysiadu’r amcanion hyn yn ffurfiol mae’n gwahodd pobl i fynegi barn i’w ystyried.

 

Oherwydd bod y  gyllideb ar gyfer rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yn prinhau mae’r Awdurdod yn wynebu penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â’r gwasanaethau y mae’n eu darparu nawr ac yn y dyfodol. 

 

Mae gan yr Awdurdod enw da o ran y modd y mae wedi llwyddo i reoli ei arian a pharhau i gynnig gwasanaethau atal, amddiffyn ac ymateb o’r radd flaenaf er gwaetha’r toriadau.

 

Y mae hefyd wedi dangos ei bod hi’n well rhwystro’r clwyf yn hytrach na’i wella - y mae llai o bobl o lawer yng Ngogledd Cymru yn dioddef tanau'r dyddiau hyn a hynny oherwydd bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i addysgu a chefnogi pobl i gadw eu hunain yn ddiogel. 

 

Fodd bynnag, nid yw’r llwyddiant hwn yn ddigon. Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i’r Awdurdod barhau i wella ei  wasanaethau yn y tymor byr yn ogystal ag ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol yng Ngogledd Cymru. Hefyd, y mae’n rhaid iddo ystyried y gost sydd ynghlwm â hyn - nid oes llawer o ddiben cynllunio gwasanaeth a fydd yn anfforddiadwy yn y dyfodol.

 

Fel Awdurdod dros Ogledd Cymru gyfan mae’n poeni am yr ardal a’r boblogaeth gyfan. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig iawn - beth ydych chi’n ei feddwl? Ydych chi’n meddwl ei fod yn gwneud y dewisiadau cywir? Oes yna unrhyw beth yn eich barn chi a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr nad ydyw wedi ei ystyried eto? 

 

Meddai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: ““Mae pob un ohonom yn ymwybodol bod llai o arian ar gael i wasanaethau cyhoeddus nac yr hoffem, ac rydym yn derbyn bod y sefyllfa’n annhebygol o wella am rai blynyddoedd. Bydd unrhyw un sydd yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod pa mor anodd yw  parhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl  pan nad ydy’r arian ar gael. 

 

Mae’r cwestiynau sydd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn gofyn a allwn ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib gyda’r arian sydd ar gael i ni.

 

“Po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, gwell  fydd ein rhagolygon ni o sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran gwasanaethau.  Po fwyaf o sylwadau a derbyniwn, gallwn fod yn hyderus bod y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni’r union beth y mae ei angen ar bobl y Gogledd.”

 

Cewch wybod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk , ein dilyn ni ar @northwalesfire a www.facebook.com/northwalesfireservice- bydd holiadur ymgynghori ar gael yr wythnos nesaf. Y dyddiad olaf ar gyfer cwblhau’r arolwg yw 12 Rhagfyr 2016.

 

Mae’r ddogfen ymgynghori ‘Gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy ar gyfer Gogledd Cymru’ ar gael yma.

Gallwch gymryd rhan yn ein holiadur yma.

Gwyliwch y fideo yma sydd yn esbonio ein amcanion;

  Bydd yr Awdurdod yn ystyried ei gynlluniau i’r dyfodol yng ngoleuni’r ymatebion a dderbynnir cyn y dyddiad cau uchod, ac yn cyhoeddi Cynllun Gwella terfynol 2017-18 ar wefan yr Awdurdod erbyn 31ain Mawrth 2017.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen