Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân wedi helpu pobl ifanc leol

Postiwyd

Mae lloches newydd wedi cael ei godi mewn parc sglefrio ym Mlaenau Ffestiniog ar ôl ychydig o hwb ariannol gan yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân.

Mae’r parc sglefrio, sy’n cael ei ariannu a’i gynnal a’i gadw gan Gyngor Tref Blaenau Ffestiniog, yn gyfleuster pwysig i rai o bobl ifanc y dref.

Meddai Rhingyll Iwan Lloyd Jones o Dîm Cymdogaethau Diogelach De Gwynedd: “Tynnwyd ein sylw ni at y prosiect hwn gan Gyngor y Dref oedd wedi cael llythyr gan griw o bobl ifanc yn gofyn am loches a gwelliannau eraill yn y parc.  Roedd y bobl ifanc wedi codi peth o’r arian eu hunain ac roedd Cyngor y Dref hefyd yn cyfrannu.  Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y bobl ifanc yn dangos y fath awydd a pharodrwydd i geisio gwella eu hamgylchedd a’r teimlad oedd bod hwn yn brosiect gwerth ei gefnogi”

Cyfrannwyd arian ar gyfer y prosiect gan y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol sy’n cynnwys swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân.  Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf er mwyn amlygu peryglon cynnau tanau bwriadol, yn enwedig tanau gwair ac eithin.  Darparwyd symiau o arian er mwyn cefnogi prosiectau lleol a fyddai’n trefnu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Addysgu Busnesau a Thîm Lleihau Llosgi Bwriadol: “Un elfen o'r fenter amlasiantaeth 'Dawns Glaw'  oedd cyfrannu arian tuag at y lloches yn y parc sglefrio.   Mae’r fenter 'Dawns Glaw' wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol yn y nifer o danau gwair yr ydym wedi gorfod eu mynychu eleni yn ardal Ffestiniog.   Roedd y lloches yn rhywbeth yr oedd y bobl ifanc leol wedi gofyn amdano er mwyn iddyn nhw gael rhywle i fynd rhag y glaw pan maen nhw’n defnyddio’r parc. Mae’n braf gweld y bobl ifanc yn mwynhau’r cyfleusterau ac all y lloches ddim ond gwneud y profiad yn well iddyn nhw.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen