Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ysgol Haf Y Ffenics ar gyfer pobl ifanc Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws y rhanbarth yn ystod gwyliau’r ysgol yn cynnal cyrsiau un diwrnod fel rhan o’r rhaglen ‘Y Ffenics’.

 

Mae prosiect Ffenics yn herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl yn annibynnol mewn pobl ifanc gan ddefnyddio gweithgareddau’r gwasanaeth tân i ddatblygu nodweddion personol megis gweithio fel tîm, archwilio eithafion corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc ynglŷn â rôl y gwasanaeth tân ac achub.

 

Cynhelir y rhaglenni yma mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, Coleg Cambria, Venture a Phartneriaeth Parc Caia.

 

Mae’r tîm Ffenics wedi cynnal 13 o gyrsiau dros wyliau’r haf, gan creu cyswllt gyda 150 o bobl Ifanc trwy gyrsiau a leolir yn Yr Wyddgrug, Wrecsam a Llangefni.

 

Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn denu pobl ifanc, sy’n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar eu hymddygiad.

 

“Mae prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw, i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.

 

“Mae’r cyrsiau wedi cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth, lle’r oedd y bobl ifanc yn dysgu canlyniadau gweithredoedd, yna gweithgareddau yn y iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio gyda’n gilydd fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.

 

 “Amcanion pellach y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gryfhau eu cymhelliad a theimlo’n fwy cadarnhaol, sydd yn eu tro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

 

"Rydym yn gobeithio bod mynd ar y cwrs ysbrydoledig hwn wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl ifanc hyn, ac y byddant yn mynd â’r gwersi pwysig a ddysgwyd yn ôl gyda nhw a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen