Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dau’n marw mewn tân mewn eiddo yn Neganwy

Postiwyd

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Gannock Park West, Deganwy am 7.42am y bore yma (Dydd Mawrth 16eg Awst).

 

Cafodd criw o Landudno a Bae Colwyn eu hanfon i’r digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân.

 

Yn anffodus bu farw dyn a dynes yn y tân. Llwyddodd dynes arall i ddianc o’r eiddo cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd.

 

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau’r ffordd o ganlyniad i’r tân ac maent yn gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal.

 

Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen