Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y tân yn Neganwy yn dân trydanol yn ôl pob tebyg

Postiwyd

 

 

 

 

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn apelio ar i drigolion wneud yn siŵr bod eu hoffer trydanol mewn cyflwr gweithredol da a’u bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref  yn dilyn tân yn Neganwy'r bore yma (Dydd Mawrth 16eg Awst) lle bu farw dau o bobl.

 

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Gannock Park West, Deganwy am 7.42am y bore yma (Dydd Mawrth 16eg Awst).

 

Cafodd criw o Landudno a Bae Colwyn eu hanfon i’r digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân. 

 

Yn anffodus bu farw dyn a dynes yn y tân.  Llwyddodd dynes arall i ddianc o’r eiddo cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd.

 

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi ei gwblhau, a chredir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol. 

 

Fe achosodd y tân ddifrod tân sylweddol yn yr ystafell lle dechreuodd y tân a difrod mwg sylweddol yng ngweddill y llawr cyntaf a difrod dŵr yn y llawr gwaelod.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau’r ddau a fu farw . 

 

“Mae’r tân yn dwyn i’r amlwg pa mor beryglus ydi tanau trydanol a’u canlyniadau trasig – gallant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

 

“Mae’n bwysig paratoi rhag tanau o’r fath, drwy wneud yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol yn eich cartref. Yn anffodus, nid oedd y preswylwyr yn yr achos hwn wedi gosod larymau mwg yn eu cartref – ac fe allant fod wedi achub eu bywydau.

 

“Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod llwybrau dianc yn glir er mwyn eich galluogi i fynd allan cyn gyflymed â phosib mewn achos o dân.  Rydym hefyd yn apelio ar i drigolion wneud yn siŵr bod ystafelloedd lle mae eitemau megis bocsys ffiwsiau yn cael eu cadw yn glir o sbwriel, papur a deunyddiau hylosg eraill gan eu bod yn gallu helpu tân i ledaenu.

 

"Mae yna ychydig o gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:


PEIDIO   â gorlwytho socedi
COFIO  archwilio gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio neu wisgo
COFIO tynnu plwg unrhyw gyfarpar nad ydych yn ei ddefnyddio

COFIO cadw cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

COFIO defnyddio Dyfais Cerrynt Gweddilliol, i amddiffyn rhag sioc drydanol a lleihau’r perygl o dân trydanol

COFIO cysylltu gyda thrydanwr cymwys i brofi’ch system weirio os ydych chi’n poeni am gyfarpar trydan.  

 

“Hefyd, rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan – www.gwastan-gogcymru.org.uk. Mae’n rhoi gwybod i chi os ydych yn gorlwytho socedi a’ch helpu i gadw’n ddiogel rhag tanau trydanol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen