Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dynes o’i chartref yng Ngronant

Postiwyd

 

 

 

Cafodd dynes 81 oed ei hachub gan ddiffoddwyr tân o’i  chartref yng Ngronant y bore yma wedi i Galw Gofal roi gwybod i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tân yn ei chartref. Cafodd criw o’r Rhyl a Phrestatyn eu galw i’r eiddo toc wedi 4.35 am y bore yma, Dydd Sadwrn 13eg Awst. Cafodd yr wybodaeth a dderbyniwyd gan Galw Gofal ei rannu â’r criwiau ac o ganlyniad llwyddwyd i achub y ddynes a’i dau gi yn gyflym.  Aethpwyd â hi ar unwaith i Ysbyty Glan Clwyd ac erbyn hyn y mae wedi gwella ac yn effro ac yn siarad â’r staff meddygol.  

Llwyddodd y diffoddwyr tân i ddiffodd y tân yn gyflym a’i atal rhag lledaenu.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Meddai’r Rheolwr Grŵp, Gavin Roberts, a oedd yn bresennol: "Oherwydd bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael rhybudd cynnar gan Galw Gofal llwyddom i anfon criwiau i’r digwyddiad yn gyflym iawn.  Ar ôl cyrraedd fe aeth y criwiau i mewn i’r eiddo i achub y ddynes a’i chŵn a diffodd y tân. Oni bai ein bod wedi cael rhybudd cynnar gan y larwm mwg fe allem fod wedi gorfod delio gyda digwyddiad llawer mwy difrifol ac mae hyn yn amlygu pwysigrwydd gosod a chynnal a chadw larymau mwg.” 

“Hefyd, mae’r digwyddiad yn amlygu buddion y gwasanaeth Galw Gofal. Rydym wedi bod yn cydweithio gyda darparwyr systemau larwm cymunedol ar draws y Gogledd ers blynyddoedd, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at ddiweddaru systemau ar draws y rhanbarth gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru.”

Mae Galw Gofal  yn wasanaeth monitor dwyieithog 24/7, gyda’r nod o amddiffyn pobl fregus yn eu cartrefi hwy eu hunain neu yn y gweithle drwy gynnig gwasanaeth monitor galwadau sydd yn hybu diogelwch, sicrwydd ac annibyniaeth.

Am gyngor ar ddiogelwch yn y cartref ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen