Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio Tîm Cymorth Cymunedol newydd yn Sir Ddinbych

Postiwyd

Mae gwasanaethau brys yng Ngogledd Cymru wedi cydweithio i lansio menter newydd gyda’r nod o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

Fe fydd Tîm Cymorth Cymunedol newydd yn cael ei dreialu yn Sir Ddinbych, sef tîm arbenigol a fydd yn gweithio’n benodol i ymateb i bobl fregus sydd wedi cwympo yn y cartref.

Nod y fenter yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu cludo i’r ysbyty o ganlyniad i gwymp, a thrwy hyn leddfu’r baich a’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth meddygol.

Mae’r tîm yn cynnwys aelodau staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi cael eu hyfforddi’n llawn ac sydd â’r gallu i ddarparu gwasanaeth rhagorol a phrofiad gwell i gleifion.

Mae Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro; “Dyma un o’r prosiectau peilot sydd gennym ni ar y gweill ar y cyd gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Mae manteision amlwg i weithio ar y cyd yn y dull hwn, manteision ariannol yn ogystal â manteision o ran darparu gwasanaethau gwell yn ein cymunedau.

“Mae tua 3,000 achos yn Sir Ddinbych bob blwyddyn lle mae gofyn i bobl gael cymorth ar ôl cwympo, sydd gyfystyr â 250 achos y mis – ac mae hyn yn rhoi pwysau mawr ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Drwy ymateb fel tîm arbenigol i bobl sydd heb gael eu hanafu yn dilyn cwymp gallwn helpu i leddfu’r baich a darparu gwasanaeth gwell.”

Mae’r fenter wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru ar y cyd gyda’r tri gwasanaeth tân ac achub, Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Galw Gofal / Care Connect, a Gwasanaeth Monitro Galwadau Gogledd Cymru.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei chynnal am gyfnod o 12 mis a bydd aelodau’r tîm yn gweithio sifftiau mewn parau yn ystod y cyfnodau prysuraf rhwng 7am – 3pm a 3pm – 11pm. Byddant yn ymateb yng ngherbyd pwrpasol y Tîm Cymorth Cymunedol gydag offer arbenigol, yn cynnwys dyfeisiadau i godi pobl ar ôl iddynt gwympo. Mae’r peilot hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau arloesol i godi pobl er mwyn gwella iechyd a gofal ac arbed arian ar yr un pryd.Y mae modd i’r cyhoedd ddefnyddio’r gwasanaeth drwy alw’r Gwasanaeth Ambiwlans neu trwy ddefnyddio’r offer Teleofal sydd wedi ei osod gan Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai Mark Timmins o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Y mae mwy a mwy o alw arnom i ymateb ar unwaith i gleifion sydd gan anghenion cymhleth iawn yn ogystal â gwella profiad y claf ac, yn bwysicach fyth, gwella’r canlyniadau clinigol. “Nod y fenter hon yw ymateb yn well i gleifion sydd heb eu hanafu yn dilyn cwymp, rhoi cyfle i fwy a mwy o gleifion aros yn y cartref, anfon llai o ambiwlansys traddodiadol i ddigwyddiadau o’r fath ac annog mwy o gydweithio rhwng yr asiantaethau addas.”

Meddai’r Arolygydd Paul Wycherley o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae aelodau’r Tîm Cymorth Cymunedol hefyd wedi eu hyfforddi i osod dyfeisiadau atal troseddau megis cloeon ffenestri yn ogystal â chwblhau archwiliadau lles i helpu i amddiffyn trigolion bregus,.

“Yn aml iawn mae ein swyddogion ni’n cael eu galw i gefnogi pobl sydd wedi cwympo yn y cartref ac felly fe fydd y fenter hon yn helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein hadnoddau.”

Meddai Rhianwen Jones, Rheolwr Strategol Teleofal Rhanbarth Gogledd Cymru: “Mae’r dasg o reoli cwympiadau yn un gymhleth ac mae’n herio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae dewis eang o offer teleofal ar gael gan awdurdodau lleol i bobl fregus yn eu cartrefi i’w galluogi i seinio rhybudd pe byddent yn cwympo. Fe fydd Galw Gofal / Care Connect yn derbyn galwad ac yn galw am gymorth gan y Tîm Cymorth Cymunedol. Mae’n hanfodol bod gwasanaeth ymateb effeithiol ar gael er mwyn ein galluogi i ddefnyddio technoleg yn effeithiol ym maes gofal.”

Meddai Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant, Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn ymwybodol bod y galw ar ein gwasanaethau yn newid - mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r cyfle i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol ac effeithlon o gydweithio i ganfod ffyrdd newydd a gwell o amddiffyn ein cymunedau.”

Fe ychwanegodd Stuart Millington: “Fe fydd y prosiect peilot yn cael ei werthuso’n llawn gan ein bod yn ymwybodol bod a wnelo cydweithio â darparu gwasanaethau gwell i’r cyhoedd - mae gennym ddyletswydd i archwilio’r gwaith hwn a chyflwyno newidiadau yn y modd y byddwn yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen