Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon peiriannau sychu dillad wedi dihangfa lwcus i ddyn o Sealand

Postiwyd

 

 

Mae uwch swyddog tân yn atgoffa trigolion ynglŷn â phwysigrwydd larymau mwg a pheidio â defnyddio peiriannau sychu dillad, peiriannau glochi dillad a pheiriannau glochi llestri gyda’r nos wedi digwyddiad yn Sealand neithiwr.  

 

Cafodd criw o Lannau Dyfrdwy a’r Fflint eu galw i’r eiddo yn Green Lane East, Sealand am 00:04 o’r gloch y bore yma (Dydd Mawrth Gorffennaf 5ed) wedi i’r dyn gael ei ddeffro gan ei larwm mwg. Roedd wedi mynd i’r gwely ar ôl rhoi dillad yn y peiriant i sychu. 

 

Cafodd driniaeth ocsigen yn y fan a’r lle.

 

Fe achosodd y tân ddifrod 100% yn yr ystafell lle deilliodd y tân, sef cegin ar lawr gwaled yr eiddo.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam ar y peiriant golchi.

 

Meddai Jane Honey o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a pheryglon defnyddio eitemau trydanol megis  peiriannau sychu dillad, peirannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri gyda’r nos.

 

“Rwyf yn cynghori trigolion i gymryd camau i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd pwyll wrth ddefnyddio peirannau sychu dillad. Mae’r camau hyn yn cynnwys peidio byth â  gorlwytho’r peiriant, glanhau’r ffilter yn rheolaidd a pheidio â throi’r peiriant ymlaen am amser hir. Fel y gwelsom neithiwr, ni ddylech adael  peiriannau sychu dillad ymlaen cyn mynd i’r gwely neu cyn i chi adael y tŷ.  

 

"Drwy gymryd y rhagofalon uchod gallwch leihau’r peryglo o dân yn eich peiriant sychu dillad. Fodd bynnag fe ddylech hefyd wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref gan eu bod yn rhoi rhybudd cynnar o dân.  

 

“Os bydd tân, mae’n bwysig eich bod yn mynd allan o’r eiddo cyn gynted â phosib a’ch bod yn aros allan wedi hynny.

 

“Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân er mwyn rhoi cyfle i bawb fynd allan o’r eiddo cyn gynted â phosib.  Mae mwg yn wenwynig iawn a gallwch farw drwy anadlu dim ond ychydig o fwg –peidiwch â pheryglu’ch bywyd drwy fynd yn ôl i mewn i achub eiddo neu anifeiliaid anwes.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen