Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgoffa trigolion i gynnal a chadw eitemau trydanol yn dilyn tân mewn peiriant golchi llestri yn Wrecsam

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa trigolion i gynnal a chadw a chael gwared ar hen eitemau trydanol yn dilyn tân mewn peiriant golchi llestri mewn tŷ yn Rhiwabon.

 

Cafodd criw o Johnstown a Wrecsam eu galw i’r eiddo yn Gardden View, Rhiwabon, Wrecsam am 14.08 o’r gloch.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y peiriant golchi llestri.

 

Meddai Tony Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn aml iawn mae pobl yn anwybyddu trydan fel perygl tân, efallai oherwydd nad oes fflamau i’w gweld, ond er nad oes fflamau mae’r perygl yno o hyd – peidiwch byth â diystyru’r perygl o dân trydanol.”

 

Dyma air i gall ar ddiogelwch trydanol gan Tony:

 

● Cadwch gyfarpar trydanol yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd

 

● Peidiwch byth â phrynu cyfarpar trydanol heb wybod a ydynt yn ddiogel i’w defnyddio

 

● Genwch yn siŵr bod Marc Diogelwch Prydeinig ar gyfarpar newydd

 

● Peidiwch byth â gadael cyfarpar trydanol yn y modd segur, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen (er enghraifft oergelloedd a rhewgelloedd). Diffoddwch bopeth arall yn y plwg, ac os medrwch tynnwch y plwg cyn i chi fynd i’r gwely

 

● Gwnewch yn siŵr bod systemau trydanol yn cael eu gwirio gan drydanwr cymwys a chofrestredig o leiaf unwaith bob 10 mlynedd

 

● Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio Dyfais Cerrynt Gweddilliol  gydag offer garddio i’ch amddiffyn rhag sioc drydanol  

 

● Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol – defnyddiwch un plwg yn unig ymhob soced

 

- Defnyddiwch addasydd ffiws treuliedig ‘math bar’, yn hytrach nag addasydd bloc 

 

- Gwnewch yn siŵr nad ydy ampau’r holl blygiau yn yr addasydd yn uwch na 13 amp (neu 3000 wat o bŵer)

 

- Peidiwch â phlygio addasydd i mewn i addasydd arall – defnyddiwch un addasydd yn unig ymhob soced

 

Mae Tony hefyd yn eich cynghori i archwilio’ch lidiau a’ch plygiau rhag ofn eu bod wedi treulio neu wisgo ac os ydy’ch plygiau neu’ch socedi yn boeth,  os ydy ffiwsiau yn chwythu am ddim rheswm, goleuadau’n fflachion neu os oes marciau llosg ar socedi a phlygiau mae’n eich cynghori i ofyn i drydanwr cymwys archwilio’ch system weirio.


Fe ychwanegodd: "Er mwyn eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel, gwnewch yn siŵr bod gennych o leiaf un larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a’ch bod yn eu profi’n rheolaidd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen