Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwaith partneriaeth mewn ymarfer gwrthdrawiad traffig ffordd

Postiwyd

RHODDODD y gwasanaethau argyfwng eu sgiliau achub bywyd ar brawf mewn gwrthdrawiad traffig ffug yn y Rhyl.

 

Ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Meddygon BASICS, Tîm SAR (Awyr) Gwylwyr y Glannau EM, Meddygon Ymgynghorol, staff meddygol y RAF a’r Undeb Anafiadau yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn ddiweddar ar gyfer ymarfer hyfforddi ymwybyddiaeth Gwrthdrawiad Traffig Ffordd Aml-asiantaeth.

 

Chwaraewyd rhan y ‘cleifion’ gan ddisgyblion chweched dosbarth o Ysgol Glan Clwyd.

 

Esboniodd Ken Monks, Rheolwr y Wylfa, y Wylfa Las yn y Rhyl: "Hwn fydd y degfed ymarfer ar y cyd o’i fath y mae ein staff wedi bod yn rhan ohono gyda’r gwasanaethau ambiwlans yn y pum mlynedd ddiwethaf.

 

"Roedd yn ymarfer yn cynnwys sesiynau damcaniaethol ac yna ymarfer aml-asiantaeth gyda chleifion byw a ddarparwyd gan yr undeb anafiadau. Roedd hyn yn rhoi cipolwg i staff o bob asiantaeth ar alluoedd y lleill mewn gwrthdrawiad traffig ffordd difrifol, ac yn bwysicach na hynny, rhoddodd gyfle i ni i gyd weithio gyda’n gilydd mewn amgylchedd hyfforddi realistig.

 

“Roedd hefyd yn wych gweld staff yr Awyrlu Brenhinol a Thîm SAR (Awyr) newydd Gwylwyr y Glannau, sydd yn ddiweddar wedi cymryd rôl SAR yng Ngogledd Cymru gan y RAF.

 

“Rydym ni fel gwasanaeth tân ac achub yn mynychu nifer fawr o wrthdrawiadau, felly mae’n fuddiol iawn i ni ymarfer gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn cyflwyno’r gofal gorau posibl, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad i’r rhai sy’n ddigon anffodus i gael eu heffeithio.”

Meddai Dermot O’Leary, Arweinydd Tîm Clinigol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi ei leol yn y Rhyl: “Tra bod yr ymarfer yn edrych ac yn teimlo’n ddramatig iawn, y gwirionedd yw y gall ein criwiau fynychu gwrthdrawiad fel hyn ar unrhyw adeg.

 

“Bwriad y gwrthdrawiadau traffig ffug hyn yw gwella gwaith argyfwng rhyng-asiantaeth a galluogi i’r criwiau roddi’r gofal gorau posibl, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad i’r sawl sy’n ddigon anffodus i gael eu heffeithio.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen