Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Agoriad swyddogol yn nodi cychwyn partneriaeth newydd yn Nhywyn

Postiwyd

Ddoe (dydd Mercher 8fed Mehefin), agorodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Orsaf Dân a Heddlu Tywyn.

                                                            

Mae’r gyd-orsaf, wedi ei lleoli ar Barc Menter Pendre, Tywyn, yn orsaf dân a heddlu weithredol.

 

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect hwn ym mis Chwefror 2015 ac fe’i gwblhawyd fis Ionawr eleni – mae’r buddsoddiad wedi uwchraddio’r cyfleusterau o’r hen orsaf dân ar Frankwell Street sydd wedi bod ar y safle hwnnw ers y 1960au.

 

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: “Roedd yr orsaf dân flaenorol yn Nhywyn yn hen adeilad a oedd angen ei uwchraddio. Heddiw rydym yn gweithio’n agosach â’n partneriaid yn yr heddlu, felly roedd yn gwneud synnwyr i staff yr heddlu a thân ac achub weithredu o’r un adeilad.

 

“Rydym wedi cyd-leoli ein staff ar achlysuron blaenorol, gan gynnwys ein Cyd-ganolfan Gyfathrebu yn Llanelwy, ac mae ein perthynas wastad wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y llynedd, agorwyd cyd-gyfleusterau tebyg yn Nefyn sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rydym nawr yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y berthynas hon yn Nhywyn.

 

“Mae’r prosiect wedi golygu buddsoddiad sylweddol o £1.225 miliwn ac yn dangos ymroddiad y ddwy gyfundrefn i’w staff a’r gymuned lleol.”

 

Ymgymerwyd â’r gwaith adeiladu gan Peter T Griffiths, Conwy. Mae’r orsaf dân nawr yn cynnwys bae ymgynnull, ystafell sychu, ystafell becynnau ac ystafell offer anadlu a swyddfa’r wylfa. Bydd gan yr heddlu swyddfa ac ystafell gyfweld, a bydd y ddwy gyfundrefn yn rhannu toiledau dynion a merched a thoiledau hygyrch, cyfleusterau cawod, ystafell ddarlithio, cegin a champfa.

 

Mae’r orsaf newydd yn hygyrch i bawb yn y gymuned ac yn cydymffurfio â gofynion mynediad Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae system rheoli adeilad modern yno. Mae hefyd yn orsaf ecogyfeillgar gyda system cynaeafu dŵr glaw sy’n ailgylchu dŵr i’w ddefnyddio yn y toiledau.

 

 

Meddai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth tân ac achub a’r heddlu yn cyflenwi amrediad eang o wasanaethau sy’n gofyn i’r adeilad gael y cyfleusterau diweddaraf ar gyfer y staff. Mae adeilad pwrpasol fel hyn yn darparu cyfleusterau ardderchog, nid yn unig i helpu i gefnogi hyfforddi diffoddwyr tân i ddelio â digwyddiadau, ond hefyd i gyflenwi’r cynlluniau addysg ac atal amrywiol a weithredir yma yng Ngogledd Cymru gan y ddwy gyfundrefn.”

 

Meddai’r Uwcharolygydd Iestyn Davies: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod yn rhan o’r cyfleusterau hyn. Rydym yn hyderus y bydd yn rhoi cyfleoedd gwerth chweil i ni.

“Medrwn ond rwystro troseddau trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid, ac mae cyd-leoli gwasanaethau cyhoeddus yn gam cadarnhaol ymlaen, o ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu’r ddwy gyfundrefn.

“Bydd yr adeilad newydd yn ein galluogi i gynnal presenoldeb plismona cymunedol cryf yn Nhywyn.”

 

Ychwanegodd Arfon Jones, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu: "Mae gennym berthynas waith agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eisoes, ac felly, lle bynnag y bo modd, mae cyfleusterau ar y cyd yn gwneud synnwyr perffaith ar adeg pan fo cyllidebau’n dynn.

"Mae cael eiddo newydd, modern hefyd yn golygu bod gan swyddogion a staff amgylchedd gwaith gwell a fydd o fantais wrth ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r gymuned leol.

"Trwy gyfrwng cydweithredu arloesol fel hyn, medrwn barhau i ddarparu gwasanaeth plismona gwell i gymunedau ledled Gogledd Cymru a lleihau costau ar yr un pryd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen