Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol

Postiwyd

 

O ganlyniad, mae Gweithgor Cynllun Gwella’r Awdurdod wedi bod yn datblygu strategaeth gyllidebol tymor canol sy’n cynnwys defnyddio ei gronfeydd wrth gefn, cynyddu cyfraniadau cynghorau a thoriadau mewn gwasanaeth. Wrth wneud hyn, ystyriwyd nifer o opsiynau arbed arian gan gynnwys cau’r ystafell reoli, cau naw o orsafoedd gwledig a chael gwared â pheiriant amser cyflawn o Orsaf Dân Wrecsam.

 

 

 

Adroddwyd bod y Gweithgor wedi ystyried yr holl wybodaeth a’r opsiynau yn fanwl iawn, ac wedi dod i’r casgliad mai’r opsiwn maent yn bwriadu ei ystyried ymhellach ac ymgynghori arno fyddai’r opsiwn i gael gwared â’r pwmp amser cyflawn o Wrecsam erbyn diwedd y degawd.

 

 

 

Wedi hyn, mae amcan newydd ar gyfer y gyllideb tymor canol wedi ei ddrafftio – yn seiliedig ar strategaeth ariannol tymor canol yn cynnwys rhewi’r gyllideb eleni, cynnydd mewn cyfraniadau y flwyddyn nesaf, a rhewi’r gyllideb am y ddwy flynedd nesaf gan gyfuno hynny gyda gostyngiad mewn gwasanaethau.

 

 

 

­Ail-etholwyd y Cynghorydd Meirick Davies yn Gadeirydd yr Awdurdod Tân yn union cyn cyfarfod llawn yr Awdurdod a oedd yn trafod dyfodol y gwasanaeth tân ac achub. Meddai: “Nid yw’r penderfyniad hwn i leihau gwasanaethau yn y dyfodol wedi ei gymryd yn ysgafn gan aelodau’r Awdurdod, ond yn hytrach oherwydd mai dyma’r opsiwn lleiaf niweidiol.

 

 

 

“Ystyriodd yr Aelodau yn fanwl iawn pa ostyngiadau mewn gwasanaeth a fyddai’n cefnogi cyflawni’r targed arbedion. Rydym yn cydnabod y bydd unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth y tu hwnt i’r rhai a weithredwyd eisoes yn golygu peth risg i’r cyhoedd ac i’r Awdurdod. Ni fedrwn anwybyddu, fodd bynnag, y problemau ariannol difrifol y bydd yr Awdurdod yn eu wynebu yn y pum mlynedd nesaf a theimlwyd bod yn rhaid i ni osod y risg yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael.

 

 

 

“Yn anochel, bydd yn rhaid i’r gostyngiadau ddod o leihau nifer y swyddi, gan fod cyflogau yn cymryd 70% o gyllideb refeniw’r Awdurdod. Mae arbedion arwyddocaol eisoes wedi eu cynhyrchu trwy gyfrwng ail-strwythuro’r gwasanaeth tân ac achub ddwywaith a chydnabuwyd nad oedd modd canfod unrhyw arbedion pellach fel hyn. At hyn, mae’r gyllideb ar gyfer staff ategol hefyd wedi ei lleihau’n sylweddol er gwaethaf y pwysau cynyddol ar gapasiti o ganlyniad i newidiadau mewn rheoliadau a deddfwriaeth.

 

 

 

“O’n hanfodd, felly, daethom i’r casgliad mai’r unig le yn y gyllideb lle gellid cyflawni arbedion o’r maint gofynnol fyddai gwasanaethau gweithredol. Cymerwyd i ystyriaeth ddadansoddiad manwl o wybodaeth ar bob agwedd ar weithgareddau gweithredol – gan gynnwys dulliau gweithio, systemau criwio a defnyddio’r gweithlu.

 


 

“Ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynwyd y byddwn yn ymgynghori ar y strategaeth gyllidebu arfaethedig, sy’n cynnwys y posibilrwydd o gael gwared â phwmp amser cyflawn yn Wrecsam erbyn diwedd y degawd. Edrychwn ymlaen at glywed barn pobl yn ystod yr ymgynghoriad, sydd i’w gynnal yn yr hydref.”

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen