Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pryder ar ôl tanau bwriadol ar safle Ysbyty Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymchwiliad ar y cyd ar ôl digwyddiad arall ar safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych y penwythnos diwethaf.

 

Mynychodd diffoddwyr tân a swyddogion yr heddlu ddigwyddiad yn yr adeilad ar ddydd Sadwrn 28ain Mai am 19.21 o’r gloch pan osodwyd tân bwriadol i un o gyplau’r to.

 

Galwyd criwiau a swyddogion yr heddlu i’r un cyfeiriad hefyd ar 7fed Mai am 20.12 o’r gloch a’r 12fed o Fai am 12.04 o’r gloch i ddelio â thanau wedi eu cynnau yn fwriadol.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Tîm Addysg Busnes ac Atal Tanau Bwriadol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau anferth ar ein hadndodau, gyda’n criwiau yno yn ceisio eu cael dan reolaeth, sydd yn ei dro yn achosi oedi pan fydd diffoddwyr tân angen mynychu digwyddiadau sy’n bygwth bywydau.

 

“Efallai mai chi neu aelod o’ch teulu sydd angen ein cymorth ac efallai na fedrwn eich cyrraedd mor gyflym neu hawdd ag yr hoffem oherwydd bod yn rhaid i ni ddelio gyda thân bwriadol.

 

“Rydym yn annog pobl i beidio â mynd i mewn i’r adeiladau er mwyn eu diogelwch eu hunain.

“Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddelio ag achosion bwriadol.”

 

Meddai’r Arolygydd Gareth Jones yng Ngorsaf Heddlu Dinbych: "Gan weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Tîm Atal Tanau Bwriadol ar y cyd rydym yn cynyddu gwaith patrolio ac rydym yn apelio i unrhyw un yn y gymuned sy’n gwybod pwy sy’n gyfrifol i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl cyn i rywun gael ei anafu, neu waeth. Mae’r digwyddiadau hefyd wedi gwastraffu amser y Gwasanaethau Argyfwng sydd eu hangen mewn mannau eraill, a gallai tanau bwriadol fel hyn beryglu bywydau. Os oes gennych unrhyw wybodaeth gofynnaf i chi gysylltu â’r Heddlu ar 101 cyn gynted ag y medrwch."

 

Gofynnir i unrhyw un gyda gwybodaeth am y tanau hyn gysylltu â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall medrwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen