Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffenics yn sbarduno pobl ifanc Sir Conwy

Postiwyd

Cymerodd pobl ifanc o Sir Conwy ran yng nghwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar.

Mae'r cwrs Ffenics wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo gydag integreiddio'r unigolion gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.

Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân Llanfairfechan.

Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Rwy'n falch o ddweud bod y cwrs yma wedi bod yn llwyddiant mawr i'r prosiect cyffrous hwn.

"Nod y cwrs yw cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn fwy cymhellgar a chadarnhaol ynglyn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

"Rydym yn gobeitho bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o brosiect Ffenics ac yn teimlo y bydd o fudd iddynt yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen