Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Elusennau yn derbyn cyfraniadau coelcerth

Postiwyd

Daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy neithiwr i dderbyn cyfanswm o £2600.00, a godwyd yn ystod arddangosfa flynyddol coelcerth a thân gwyllt 5ed Tachwedd.

Mae'r elusennau a dderbyniodd gyfraniadau yn cynnwys DAFFODILS, Sglerosis Ymledol, Eye 2 Eye, Gofal Canser Macmillan, Clwb Dydd Gwener Plymouth Street, Brodwaith Shotton, Canolfan Gymunedol Shotton, Fforwm dros 50 oed Ewlo, Canolfan Ddydd Marleyfield, Cymdeithas Tenantiaid Manley Court, Clwb Bowlio Cei Connah, Connahs Quay Tigers (clwb pêl droed), Ambiwlans Sant Ioan, Elusen y Diffoddwyr Tân, enwebiad Phil Howey, sef Sgowtiaid Cei Connah ac enwebiad Ian Gibbons, sef Uned Wroleg Ysbyty Iarlles Caer.

Roedd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol i gyflwyno sieciau i gynrychiolwyr yr amrywiol elusennau.

Meddai Ian Werner, Rheolwr Gwylfa, Gwylfa Werdd ac un o drefnwyr y digwyddiad:

"Roedd y gynulleidfa ar gyfer arddangosfa dân gwyllt eleni yn wych, a hoffwn ddiolch i bob un a fynychodd am ei gwneud hi'n bosibl i ni gyfrannu i'r elusennau haeddgar hyn.

"Roedd yn bleser gweld yr elusennau yn derbyn eu sieciau gan Simon Smith, ein Prif Swyddog Tân. Hoffwn ddiolch i'r holl gynrychiolwyr am ddod draw i dderbyn y rhoddion.

"Rydym yn falch o weithio gyda thrigolion Gogledd Cymru i'w cadw mor ddiogel ag y bo modd, ac mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i'r gymuned yn gwneud yr holl drefnu a'r gwaith caled werth chweil."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen