Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffenics yn sbarduno pobl ifanc Ynys Môn a Chonwy

Postiwyd

Cymerodd pobl ifanc o Ynys Môn a Chonwy ran yng nghwrs arloesol Ffenics II Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar.

 

Mae'r cwrs Ffenics wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo gydag integreiddio'r unigolion gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.

 

Cynhaliwyd un cwrs yng Ngorsaf Dân Llanfairfechan, ac un arall yng Ngorsaf Dân Llangefni.

 

Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Rwy'n falch o ddweud bod y ddau gwrs yma wedi bod yn llwyddiant mawr i'r prosiect cyffrous hwn.

 

"Nod y cwrs yw cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn fwy cymhellgar a chadarnhaol ynglyn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

 

"Mae'r cwrs yn dilyn ymlaen o gwrs Ffenics I ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc feithrin sgiliau arwain lle maent oll yn cael y cyfle i fod yn 'Swyddog â Gofal' mewn ymarfer tîm.

 

"Rydym yn gobeitho bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o brosiect Ffenics ac yn teimlo y bydd o fudd iddynt yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen