Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân angheuol mewn ty yn Rhostryfan, Caernarfon

Postiwyd

Mae gwr wedi marw ar ôl tân mewn eiddo yn Rhostryfan, Caernarfon neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 16).

Yn fuan ar ôl 7pm galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dân mewn ty ar ôl i aelodau o'r cyhoedd dorri i mewn a chanfod yr eiddo yn llawn mwg.

Mynychodd dau beiriant tân o Gaernarfon, a defnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu a phibell ddwr  i ddelio â'r tân. Roedd Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.

Trist adrodd bod corff dyn a chi anwes wedi eu darganfod mewn llofft ar lawr daear yr eiddo.

Mae achos y tân yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen