Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apelio am wybodaeth yn dilyn tanau yn Y Rhyl

Postiwyd

Mae'r Heddlu yn apelio am gymorth i geisio dod o hyd i ddyn y credir ei fod wedi dechrau tri tân yn Y Rhyl.

Cafodd y cyntaf o'r tanau eu riportio am 11:45pm neithiwr, nos Fawrth 22 Mawrth, pan rhoddwyd drws Fferyllfa Lloyds, Ffordd Wellington ar dân. Mynychodd Diffoddwyr Tân a rhoddwyd y tân allan.  

Cafwyd adroddiadau pellach am ddau dân mewn biniau ar yr un ffordd, a gafodd hefyd eu diffodd.

Mae ymholiadau'n parhau ac mae'r Heddlu'n awyddus i siarad ag unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r tanau.

Meddai'r Arolygydd Alwyn Williams: "Rydym yn awyddus i ddod o hyd i ddyn a welwyd yn ardal y Fferyllfa ar y pryd. Fe'i ddisgrifir fel dyn gwyn, yn ei 30au gyda gwallt tywyll. Efallai ei fod yn gwisgo siwmper Nadolig ac roedd ganddo drowsus llwyd/du ac esgidiau hyfforddi tywyll.  

Ychwanegodd Kevin Jones, Rheolwr Tîm Addysg Busnes a Lleihau Llosgi Bwriadol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau, wrth i'n diffoddwyr tân geisio rheoli'r sefyllfaoedd bydd hyn yn atal criwiau rhag gallu mynychu achosion sy'n peryglu bywydau. Gallai fod yn chi neu'n aelod o'ch teulu sydd angen ein cymorth ac efallai na fydd modd i ni fynychu mor gyflym neu mor hawdd gan ein bod yn delio â thân bwriadol.

"Mae cynnau tân yn fwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn mynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol".

Fe ddylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r Tân yn Y Rhyl gysylltu â Swyddogion yng Ngorsaf Dân Y Rhyl drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod U041347. Gellir hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111 neu cysylltwch â'r ystafell reoli yn uniongyrchol drwy'r gwasanaeth sgwrsio dros y we newydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen