Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larwm mwg yn tynnu sylw at dân mewn cartref ym Mlaenau Ffestiniog

Postiwyd

Mynychodd diffoddwyr tân o Flaenau Ffestiniog dân mewn eiddo yn Llain y Maen, Blaenau Ffestiniog am 7.00pm, dydd Mawrth 22 Mawrth.  

Mae achos y tân wedi'i sefydlu sef bod popty wedi'i droi ymlaen ar ddamwain gan achosi eitemau i fynd ar dân. Achosodd hyn ddifrod mwg i'r eiddo ac aethpwyd â dyn i'r ysbyty mewn ambiwlans.  

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Canodd y larwm mwg gan dynnu sylw'r unigolyn at y tân. Mae'r digwyddiad hwn unwaith eto'n profi pa mor hanfodol yw hi bod gan bawb larymau mwg wedi'u gosod yn eu tai gan y byddant yn rhoi rhybudd cynnar i chi o dân. Rhaid eu cynnal yn gyson drwy brofi'r batri bob wythnos a dylid ei newid yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr.  

"Os byddwch yn canfod tân, ni ddylech geisio ei ddiffodd eich hun. Ewch allan o'r eiddo ar unwaith, caewch y drysau tu ôl i chi a ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub. Ni ddylech fynd yn ôl i mewn i'r eiddo o dan unrhyw amgylchiadau. Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân ar gael yn  www.nwales-fireservice.org.uk"

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen