Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl yn dilyn tanau ym Mangor

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddau dân gors a gafodd eu cynnau'n fwriadol ar Fynydd Bangor. 

 

Mae'n debyg bod y tanau wedi digwydd rhwng 6.30pm a 9.20pm nos Fawrth 22 Mawrth.

 

Meddai Arolygydd Andy McGregor: "Rydym yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tanau ac rydym yn apelio ar aelodau'r cyhoedd sydd â gwybodaeth am sut gafodd y tanau hyn eu cynnau neu a welodd rhywun neu unrhyw beth amheus mewn perthynas â'r tanau yma i gysylltu â'r Heddlu."

 

 "Ni fyddwn yn goddef tanau gwair a thanau mynydd sy'n cael eu cynnau'n fwriadol.  Mae'r tanau yma nid yn unig yn dinistrio llethrau mynyddoedd a bywyd gwyllt, ond gallant hefyd roi bywydau unigolion mewn risg tra bydd criwiau tân yn ceisio diffodd y fflamau."         

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae tanau bwriadol yn rhoi llawer iawn o bwysau ar adnoddau, gan fod ein criwiau yn treulio llawer iawn o amser yn ceisio eu diffodd, sydd yn ei dro yn atal y diffoddwyr tân rhag gallu mynychu digwyddiadau bygwth bywyd eraill. 

 

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y tanau hyn i ffonio Gorsaf Heddlu Bangor ar 101 a dyfynnu'r cyfeirnod RC16041246.   Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gallwch gysylltu â'r ystafell reoli'n uniongyrchol drwy ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrsio ar-lein newydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen