Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

AC Leighton Andrews yn dangos ei gefnogaeth i ymgyrch Cymru Gyfan yn erbyn tanau gwyllt

Postiwyd

Heddiw, (10.30yb ar Ddydd Iau'r 17eg o Fawrth) yng Ngorsaf Dân newydd sbon Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, croesawodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) a'i bartneriaid y Gweinidog dros Wasanaethau Cymunedol, AC Leighton Andrews i lansio'r dull aml-asiantaeth Cymru Gyfan i fynd i'r afael â thanau glaswellt a mynydd ar draws Cymru yn ystod 2016.

 

Mae dull cyfathrebiadau eleni'n rhan o strategaeth lleihau tanau glaswellt aml-asiantaeth Cymru Gyfan ehangach o'r enw Dawns Glaw.

 

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynwyd y Gweinidog i'r criw tân yng Ngorsaf Dân Hirwaun - un o'r Gorsafoedd Tân o fewn ardal GTADC sy'n gorfod ymateb i ganran uchel o ddigwyddiadau tân glaswellt o fewn ardal De Cymru. Roedd y criw tân yn gwisgo'r cit tân newydd (Offer Gwarchod Personol - OGP) a gyflwynir i bob Ymladdwyr Tân ar draws De Cymru dros y misoedd nesaf a fydd yn rhoi amddiffyniad ychwanegol wrth iddynt ymladd y tanau glaswellt a mynydd eithriadol o beryglus a dwys hyn.

 

Wedi'i harddangos hefyd oedd un o'r pedwar Cerbyd Pob Math o Dir (ATV) newydd sbon a brynwyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cerbyd pob math o dir a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer ymateb ymladd tân cyflym pan fydd angen llywio ar hyd tir garw yw'r ATV. Gall y pwmp sugno dwr o unrhyw ffynhonnell ddwr sydd ar gael wrth ddefnyddio system ymladd tân, neu gall criwiau lenwi'r tanc dwr mewn mater o funudau.

 

Yna, cyflwynwyd y Gweinidog i Bernie. Dafad (gwisg) yw Bernie sy'n fascot i'r maes o'r cynllun gweithredu aml-asiantaeth Cymru Gyfan a anelwyd at ddisgyblion cyfnod allweddol un a dau yn Ne Cymru. Fel rhan o ymgyrch Bernie eleni, mae gan Bernie ei 'Sioe Deithiol Bernie' ei hun a fu'n ymweld ag ysgolion cynradd ar draws Rhondda Cynon Taf (RCT) ers dechrau Chwefror. Defnyddir y sioe deithiol i ymgysylltu ac addysgu'r bobl ifanc ynghylch canlyniadau cynnau tanau glaswellt a mynydd bwriadol - yn enwedig pan ddaw at eu cartrefi, y dirwedd a'r bywyd gwyllt sy'n byw yng nghefn gwlad De Cymru.

 

Yn y cyfnod sy'n arwain at wyliau'r Pasg, bydd sioe deithiol Bernie'n ymweld ag ysgolion cynradd ar draws ardal Rhondda Cynon Taf (RCT).  Yn flynyddol, dyma'r ardal sy'n diodde'r nifer fwyaf o danau glaswellt a mynydd o ganlyniad i gynnau tân bwriadol; yn ystod Mawrth ac Ebrill 2015, bu 429 o danau glaswellt bwriadol yn ardal RCT.

 

Darperir pob un o ymweliadau 'Sioe Deithiol Bernie' i fyfyrwyr cyfnod allweddol un a dau o fewn yr ysgol.  Bydd y rhaglen yn cynnwys: Cyflwyniad tân glaswellt wedi'i deilwra 30 munud o hyd yn amlygu negeseuon allweddol tanau glaswellt a chanlyniadau tanau gwair a mynydd, a chyflwyniad o'r Warchodfa Dylluanod ynglyn â sut yr anafir neu lleddir tylluanod, adar a bywyd gwyllt eraill sy'n byw yng nghymoedd a bryniau De Cymru gan danau gwyllt, ac ymweliad i drelar GTADC, lle gall disgyblion ymgeisio mewn cystadleuaeth i enwi 'Oen Bach Bernie' a derbyn tystysgrif sy'n datgan eu bod yn bellach yn llysgennad llawr gwlad - wrth dyngu'r llw hwn ac wrth ddod yn llysgennad, maent yn cadarnhau na fyddant yn cychwyn unrhyw dân glaswellt neu fynydd yn fwriadol - a gorau oll, byddant hefyd yn cwrdd â Bernie ei hun!

 

Cewch ganfod rhagor o wybodaeth ar 'Sioe Deithiol Bernie' wrth ymweld â www.bernie.uk.com a thrwy ddangos eich cefnogaeth wrth fabwysiadu'r 'llw llawr gwlad', "Rwy'n helpu a chefnogi Bernie i leihau tanau glaswellt bwriadol ar draws Cymru" - dilynwch Bernie ar Twitter/Trydar a hoffwch ei dudalen Facebook - gellir canfod y ddau o dan BernieSWFRS.

 

Yn derfynol, dangoswyd y fideo 'Wyt ti'n chwerthin nawr?' i'r Gweinidog. Hwn yw sylfaen ochr 'fwy cignoeth' yr ymgyrch a anelwyd at ddisgyblion oed ysgol uwchradd ac i fyny. Thema maes 'cignoeth' yr ymgyrch yw annog cyneuwyr tanau a chyneuwyr posib i feddwl am ganlyniadau cychwyn tanau glaswellt a mynydd bwriadol a gall rhywbeth a all ymddangos fel sbort ac ychydig o hwyl achosi canlyniadau distrywiol i'r cyneuwr tân ei hun mewn gwirionedd (cofnod troseddol), y bywyd gwyllt, y dirwedd, yr economi Cymreig ac yn bwysicaf oll, golygai y gall Ymladdwyr Tân gael eu cyfeirio rhag mynychu gwir argyfwng - rhywun yn sownd mewn tân mewn ty neu mewn car a gafodd ddamwain, lle bydd risg posib i fywyd.

 

Mae gan faes 'Wyt ti'n chwerthin nawr?' yr ymgyrch ei wefan ei hun - www.dal-i-chwerthin.co.uk - lle gall ymwelwyr wylio'r ffilm fer. Dangosir y ffilm fer ar wefan GTADC ac ar wefannau ei bartneriaid hefyd. O'r 25ain o Fawrth i'r 8fed o Ebrill, dangosir y fideo mewn sinemâu ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Merthyr Tudful ac o'r 21ain o Fawrth i'r 4ydd o Ebrill bydd hysbyseb radio hefyd a fydd yn cefnogi thema'r ymgyrch a'r ffilm.

 

Dywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, AC Leighton Andrews; Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews:

 

"Mae cynnau tanau glaswellt bwriadol yn ddwl, yn beryglus ac yn anghyfreithlon.  Peryglodd Ymladdwyr Tân eu bywydau i daclo'r bygythiad hwn a lleihau'r niwed i'r amgylchedd a'r ofn y mae tanau glaswellt yn creu o fewn cymunedau lleol.   

 

"Rydym oll yn gweithio mor galed ag y gallwn i atal tanau glaswellt, ac mae'r ymgyrch sy'n cael ei lansio gennym heddiw yn rhan hanfodol o hyn.  Ond yn ogystal, mae angen i ni fod yn siwr y gall ein Hymladdwyr Tân ddelio â thanau glaswellt yn sydyn, yn ddiogel ac yn effeithiol. Dyna paham rwy'n falch o allu cyllido'r cerbydau oddi ar y ffordd a'r offer gwarchodol fydd yn caniatáu iddynt wneud hyn."

 

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; "Mae taclo materion tanau gwair bwriadol cymaint ynghylch atal, addysgu a gorfodi ag ydyw ynghylch offer a thactegau gweithredol a diffodd tanau. Buom, a byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n Gwasanaethau Tân ac Achub a'n hasiantaethau partner cymdogol i fynd i'r afael â materion gwaelodol ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnau tanau glaswellt bwriadol sy'n achosi difrod i'r amgylchedd. Rydym yn awyddus iawn i gynnwys pobl leol wrth atal haint tanau glaswellt bwriadol - mae'n cael effaith negyddol ar y cymunedau, ar y trethdalwr ac ar yr amgylchedd, ac mae'n rhaid atal hyn.

 

Aeth yn ei flaen; "Mae dull cyfathrebu 'Mae gan danau glaswellt ganlyniadau' yn rhan o strategaeth aml-asiantaeth lleihau tanau glaswellt ehangach (Dawns Glaw) a ddatblygwyd gan dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, gyda chefnogaeth eu partneriaid, i leihau nifer y tanau glaswellt a mynydd ar draws Cymru. Bydd y strategaeth ehangach yn canolbwyntio ar y negeseuon a'r mentrau cyfathrebu, addysgu, dargyfeirio a gorfodi a ddatblygir ac a gyflawnir gan bob partner yn ôl eu meysydd ffocws arbennig - i Dde Cymru, mae'r pwyslais ar leihau tanau glaswellt a mynydd bwriadol.

 

Yn draddodiadol, mae'r cyfnod sy'n arwain at wyliau'r Pasg ac yn ystod yn gweld nifer y tanau glaswellt a mynydd a gyneuir yn fwriadol yn ymddyrchafu, a chanlyniad hyn yw bod criwiau Tân De Cymru'n cael eu hymestyn hyd eu heithaf. Yn flynyddol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n gwneud paratoadau arbennig ar gyfer amodau llifeiriant* posib, ac eto eleni mae'r Gwasanaeth yn gobeithio bydd y gweithgareddau dargyfeiriol, addysgol a gorfodol sydd mewn grym ganddynt drwy law 'Sioe Deithiol Bernie' a'r strategaeth leihau tanau glaswellt ehangach yn gostwng nifer y tanau glaswellt a gyneuir yn fwriadol ac yn lleddfu'r baich ar gannoedd o Ymladdwyr Tân a ellir eu byddino i'r cymoedd wrth arwain at gyfnod Gwyliau'r Pasg a throsto."

 

Mae tanau glaswellt bwriadol yn hynod o anrhagweladwy a gallant droelli allan o reolaeth o fewn munudau.  Pob tro y gelwir ein Hymladdwyr Tân i dân glaswellt bwriadol neu dân mynydd, nid yn unig y mae'n costio miloedd o bunnoedd i'r trethdalwr, yn effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt ac ôl troed carbon ac yn rhoi Ymladdwyr Tân mewn perygl diangen, ond hefyd golygai y gall Ymladdwyr Tân cael eu dargyfeirio rhag mynychu gwir argyfwng - rhywun yn sownd mewn tân yn eu cartref neu mewn car a gafodd ddamwain, lle mae perygl posib i fywyd."

Gwyliwch y ffilm 'Wyt ti'n chwerthin nawr?' yma

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen