Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Partneriaeth tri-gwasanaeth cyntaf i Ogledd Cymru gydag agoriad Glannau Dyfrdwy

Postiwyd

Cafodd yr orsaf dân yng Nglannau Dyfrdwy sydd newydd ei hail-fodelu ei hagor yn swyddogol ddoe (Dydd Llun 14eg Mawrth) ar ôl cwblhau gwaith ailwampio mawr ar y safle.

Gweinyddodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, mewn seremoni arbennig i ddathlu'r achlysur.

Mae'r orsaf, wedi ei lleoli ar Chester Road, Y Fferi Isaf, yn cynrychioli'r cyfleustra tri-gwasanaeth cyntaf un yng Ngogledd Cymru gan ei bod hefyd yn darparu cyfleusterau i Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Mehefin 2014 ac mae'r buddsoddiad hwn wedi uwchraddio'r orsaf i greu cyfleusterau modern i wasanaethu anghenion staff y gwasanaethau argyfwng a'r gymuned leol.

Mae diffoddwyr tân Glannau Dyfrdwy yn ymateb i ddigwyddiadau yn ardal Glannau Dyfrdwy a thu hwnt, gan gynnwys digwyddiadau dros y ffin yn Sir Gaer. Agorodd yr orsaf bresennol ym 1964 a, hyd yma, nid yw wedi ei haddasu rhyw lawer ers hynny.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Rydym wrth ein boddau gyda'r cyfleusterau newydd yng Nglannau Dyfrdwy a'r ffaith ein bod wedi medru sefydlu partneriaeth ar y safle gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans.

"Nawr mae gennym gyfleusterau modern rhagorol i'r staff sy'n gweithio yn y lleoliad, ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod i grwpiau cymunedol eu defnyddio. Yn ychwanegol at ymateb i ddigwyddiadau, mae rhwystro tanau rhag cychwyn yn y lle cyntaf yn rhan hollbwysig o waith y gwasanaeth tân ac achub modern - felly mae creu cysylltiadau agosach gyda'n cymuned yn hanfodol i'n gwaith i amddiffyn trigolion lleol.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein hadeiladau ar gyfer y dyfodol, gan mai rhan o'n strategaeth yw cadw costau i lawr yn y tymor hir. Roedd yr adeilad presennol dros hanner can mlynedd oed ac nid oedd yn bodloni'r ddeddfwriaeth bresennol.

"Mae cyd-leoli ein staff ni gyda phartneriaid gwasanaethau argyfwng yn dod â nifer o fanteision, yn gyfundrefnol ac i'n cymunedau. Mae gennym berthynas wych gyda'r heddlu ar safleoedd eraill megis ein Canolfan Gyfathrebu ar y Cyd yn Llanelwy a'r gyd-orsaf newydd yn Nefyn, a byddwn yn y man yn gweithio gyda'n cydweithwyr ambiwlans mewn cyfleusterau newydd pwrpasol a gaiff eu hagor yn Wrecsam yn y dyfodol agos.

"Edrychwn ymlaen at feithrin y perthnasau hyn ac rwy'n hyderus y bydd y cyfleustra newydd yng Nglannau Dyfrdwy yn ein helpu i barhau i wasanaethu'r gymuned leol nawr a thros y degawdau i ddod."

Cwblhawyd y gwaith adeiladu gan MPH Construction ac roedd yn golygu agor yr orsaf dân bresennol i mewn i'r orsaf ambiwlans flaenorol drws nesaf, ac ymestyn yr ystafelloedd ar y llawr daear i gynnwys baeau peiriannau tân yn y cefn. Cafodd yr adeilad presennol ei ail-gladio, ei ail-doi, ei ail-fodelu a'i ymestyn, gan ddymchwel y ty hyfforddiant tân blaenorol a'i ddisodli gan dwr hyfforddi wedi ei adeiladu'n bwrpasol. Mae bae ymgynnull i 44 aelod staff, cyfleusterau sychu ac ystafelloedd locer, ynghyd â swyddfeydd, darpariaeth gysgu ychwanegol a chegin newydd.

Mae'r ailwampio hefyd wedi cynnwys gwell cyfleusterau i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda chyfleusterau hyblyg, ystafell orffwys bwrpasol i staff ambiwlans, a lle parcio i ddwy ambiwlans - oll wedi eu darparu fel rhan o gynlluniau'r gwasanaeth ambiwlans ar gyfer y dyfodol.

Mae'r orsaf newydd yn hygyrch i bawb yn y gymuned ac yn cydymffurfio gyda gofynion mynediad Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd trigolion lleol yn medru defnyddio'r ddwy ystafell gymunedol.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio swyddfa ar gyfer cwnstabl yr heddlu a bydd hefyd yn defnyddio cyfleusterau cyfarfod a hyfforddi a rennir. Bydd y trefniant hwn yn cynorthwyo nid yn unig o ran gwell gwaith partneriaeth, ond bydd hefyd yn cynorthwyo trigolion a busnesau Y Fferi Isaf i gysylltu â swyddog yr heddlu.

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Bydd y dair cyfundrefn yn cyflenwi amrediad eang o wasanaethau sy'n gofyn i'r adeilad gael y cyfleusterau diweddaraf i'r staff sy'n gweithio ohono. Mae'r prosiect ailwampio hwn yn darparu cyfleusterau rhagorol, nid yn unig i gynorthwyo gyda hyfforddi diffoddwyr tân i ddelio â digwyddiadau, ond hefyd i gyflenwi'r cynlluniau addysg ac atal amrywiol a redir yma yng Ngogledd Cymru gan y dair cyfundrefn."

Meddai Karl Hughes, Rheolwr Ardal o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Mae gennym berthynas waith agos eisoes gyda'r gwasanaeth tân a'r heddlu, ac mae cael safle newydd, modern hefyd yn golygu bod amgylchedd gwaith gwell i'r staff, a fydd yn fanteisiol o ran darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.

"Trwy gydweithredu'n arloesol fel hyn, medrwn barhau i ddarparu gwasanaethau gwell i gymunedau ledled Gogledd Cymru tra hefyd yn medru lleihau costau."

Ychwanegodd yr Arolygydd Dave Jolly: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o'r cyfleusterau hyn a rennir. Medrwn ond fod yn llwyddiannus o ran rhwystro trosedd trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid, ac mae cyd-leoli gwasanaethau yn gam cadarnhaol ymlaen, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu'r cyfundrefnau. Bydd yn ein galluogi i gynnal presenoldeb plismona cymunedol cryf yn yr ardal."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen