Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr ymgyrch Peidiwch â'n gwahodd i Ginio! yn dod i Gonwy

Postiwyd

Mae ymgyrch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i leihau tanau yn y gegin yn dod i Gonwy yr wythnos hon.

Bydd staff allan yn hyrwyddo'r ymgyrch 'Peidiwch â'n Gwahodd i Ginio - Meddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!' tu allan i Morrisons Bae Colwyn ddydd Gwener 5 Chwefror rhwng 10am a 3pm a bydd mwy o ddyddiadau i ddilyn.

Mae coginio yn brif achos tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd

Cymru - mae'r ymgyrch hon yn pwysleisio peryglon gadael bwyd yn coginio a pheidio â glanhau padelli grilio, ac mae'n barhad o ymgyrchoedd llwyddiannus eraill a gynhaliwyd ledled Gogledd Cymru eleni, yn fwyaf diweddar yng Nghonwy.

Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  - gall pob un o'r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.

Yng Nghonwy, rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015 roedd bron i 30% yn ymwneud â choginio.

Dyma pam y bydd diffoddwyr tân allan dros y ddau fis nesaf, yn siarad â siopwyr ledled Conwy am sut i aros yn ddiogel yn y gegin, gan roddi brwsys golchi llestri am ddim i annog pobl i feddwl yn ddiogel wrth goginio a chofio sicrhau eich bod yn glanhau eich popty a'r gril yn rheolaidd. Bydd pobl yn medru profi eu gwybodaeth am ddiogelwch trwy gymryd ein cwis coginio'n ddiogel gyda chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.

Bydd cwis coginio ar-lein hefyd i helpu'r sawl na fedr fynd i'r archfarchnad i ddysgu am ddiogelwch yn y gegin a chael cyfle i ennill ein cystadleuaeth.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych:

"Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud popeth a fedrwn i bwysleisio bod coginio yn achosi nifer fawr o danau mewn tai a newid ymddygiad i rwystro'r tanau rhag digwydd, ond tra medrwn ni gynghori ac addysgu, rhaid i'r unigolyn fod eisiau newid y pethau maent yn eu gwneud er mwyn gwneud eu hunain yn ddiogelach.

"Dro ar ôl tro rydym yn mynychu tanau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am y coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â'ch sylw, rydych wedi bod yn yfed neu ar  feddyginiaeth, a gall y canlyniadau fod yn drychinebus. Nid ydym eisiau cael cinio gyda chi a delio â'r tân yn eich cegin!

"Felly, cymerwch sylw o'n hymgyrch, dewch i'n gweld mewn archfarchnad - byddwn yn rhoi brws golchi llestri i helpu cadw eich offer coginio yn lân a'r cyfle i ennill gwerth £100 mewn talebau archfarchnad. Os na fedrwch ddod draw, cymerwch ran yn ein cystadleuaeth diogelwch tân ar ein tudalen Facebook yn www.facebook.com/Northwalesfireservice.

"Peidiwch ag anghofio - mae larymau mwg yn achub bywydau. I gael archwiliad diogelwch cartref am ddim, ffoniwch ein llinell ffôn 24 awr am ddim 0800 169 1234.

Dyma awgrymiadau Gwyn er mwyn bod yn ddiogel yn y gegin:

Os ydych yn gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres

  • Peidiwch â defnyddio matsis na thaniwr i danio cwcer nwy. Mae dyfeisiau sbarcio yn ddiogelach
  • Gwnewch yn siwr bod unrhyw goes sosban wedi ei throi i ffwrdd o ymyl y cwcer
  • Cadwch y popty, yr hob a'r gril yn lân - os oes saim wedi hel gall fynd ar dân
  • Peidiwch â hongian unrhyw beth uwchben y cwcer
  • Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gall fynd ar dân
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio, gwnewch yn siwr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch offer trydanol pan nad yw'n cael ei ddefnyddio
  • Peidiwch â defnyddio sosban tsips - defnyddiwch beiriant ffrïo dan reolaeth thermostat neu tsips popty
  • Gwnewch yn siwr bod gennych larymau mwg - maent yn rhad ac am ddim a gallent achub eich bywyd

 

Bydd yr ymgyrch 'Peidiwch â'n Gwahodd i Ginio!' yn ymddangos ledled Conwy yn ystod Chwefror a Mawrth yn yr archfarchnadoedd canlynol:

 

  • Morrison's, Bae Colwyn -  5 Chwefror, 10am - 3pm
  • Co-Op Llanrwst - 12 Chwefror, 10am - 3pm
  • Tesco Abergele - 19 Chwefror, 10am - 3pm
  • Asda, Llandudno 26 Chwefror, 10am - 3pm
  • Dyddiadau a lleoliadau pellach i'w cadarnhau

 

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch am #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter neu ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen