Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y fideo ‘Llosgi’ch dyfodol’ ar fin addysgu pobl ifanc Wrecsam

Postiwyd

 

Y mae ffilm fer sydd yn amlygu canlyniadau cynnau tanau yn fwriadol wedi cael ei lansio ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru heddiw.

 

Bydd y ffilm yn cael ei hybu yn y cyfryngau cymdeithasol, cyn lansiad y fideo llawn a fydd yn addysgu pobl ynglŷn â chanlyniadau cynnau tanau yn fwriadol.

 

Mae’r gwaith hwn yn rhan brosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y nawdd o £10,000 a dderbyniwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddau yn gynharach eleni.

 

Mae’r ffilm fer yn cynnwys cyfweliadau gydag unigolyn sydd wedi cynnau tanau yn fwriadol, pobl leol sydd wedi dioddef o ganlyniad i danau bwriadol ym Mharc Caia a dynes a gafodd ei llosgi’n ddifrifol gan dân yn ogystal â swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

 

Teitl y  fideo yw ‘Llosgi’ch dyfodol’ yn dilyn cystadleuaeth ar-lein lle cafwyd sawl cynnig i ddod o hyd i deitl addas.

 

Stacey Jones, 22, o Dreffynnon oedd yr enillydd ac fe dderbyniodd hi dalebau sinema gwerth £20 yn ystod ymweliad i Ganolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân Wrecsam ar Ffordd Croesnewydd yr wythnos hon.  

 

Meddai’r Arolygwr Simon Kneale o Heddlu Gogledd Cymru: “Roeddem wrth ein bodd gyda’r ymateb a gafwyd  i’r gystadleuaeth ar-lein ac roeddem yn meddwl bod cynnig Stacey, ‘Llosgi’ch dyfodol’, yn crynhoi sut y mae tanau bwriadol yn difetha bywyd y drwgweithredwr a’r dioddefwyr o’u cwmpas.  

 

“Mae modd gwylio’r ffilm fer ar lein ac mae’n rhoi neges bwerus. Mae’n rhoi blas ar gynnwys y fideo llawn a fydd yn cael ei dangos mewn ysgolion ar draws y sir yn fuan.”

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Fe all penderfyniad gwirion ddifetha’ch bywyd – ac mae teitl Stacey yn ein helpu i gyfleu hyn. Mae canlyniadau ynghlwm â chynnau tanau yn fwriadol – i’r drwgweithredwr, y gymuned a’r gwasanaethau brys.

 

“Rydym wedi defnyddio sawl astudiaeth achos yn ystod y ffilm ac mae wedi cael ei ffilmio yn ardal Wrecsam, felly mae naws leol arni.

 

“Mae’r fideo llawn yn amlygu’r effaith y mae tanau bwriadol yn ei gael ar  gymunedau, ac rydym yn gobeithio y bydd y ffilm fer sydd bellach ar–lein yn gwneud i bobl feddwl am y broblem a’r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem unwaith ac am byth.

 

I wylio’r ffilm fer ewch i sianel You Tube Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu Heddlu Gogledd Cymru- neu dilynwch y dolenni yma -

https://youtu.be/oErEniL-hdM  - Saesneg

https://youtu.be/t_K3Yi4JCVA - Cymraeg

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen