Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn dathlu 100,000 o ymwelwyr

Postiwyd

 

Mae Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn dathlu wedi i 100,000 o ymwelwyr ymweld â’r orsaf ers iddi agor ei drysau i’r gymuned yn ôl ym mis Medi  2008. Agorwyd yr Orsaf Dan Gymunedol yn swyddogol, y cynaf o’i math yng Nghymru, gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AS, Prif weinidog Cymru. Mae wedi ei lleoli ar Ffordd y Glannau, y Rhyl ac mae’n orsaf gwbl weithredol sydd yn cynnig llu o gyfleusterau ar gyfer y gymuned yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael i’w llogi gan grwpiau neu fusnesau lleol.

 

Mae dros 100 o grwpiau yn defnyddio’r ystafelloedd cyfarfod ar yr orsaf yn rheolaidd, yn cynnwys Clybiau Afanc, Ambiwlans Sant Ioan, Relate a Rhoir Gorau i Ysmygu Cymru yn ogystal â cholegau a chynghorau lleol. Mae modd i drigolion lleol hefyd ddysgu sgiliau newydd yn cynnwys ffotograffiaeth ddigidol a gwnïo.

 

Mae Nia Evans, Cydlynydd Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl, yn egluro’r syniad y tu ôl i’r orsaf dân gymunedol: “Rydym yn awyddus i gynnig amgylchedd diogel i’r cyhoedd er mwyn iddynt gael mynychu llu o gyrsiau neu gyfarfodydd cymunedol ac ar yr un pryd cael cyflwyniad i bwysigrwydd diogelwch tân. Rydym wedi cael cyfle i rannu’n negeson â grwpiau anodd eu cyrraedd na fyddem wedi dod wyneb yn wyneb â hwy fel arall, gan wneud iddynt sylweddoli y gallant gadw eu hunain a’u teulu’n ddiogel rhag tân drwy gyflwyno ychydig o newidiadau syml.”  

 

“Mae’r orsaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae 100,000 o bobl wedi ymweld â hi ers mis Medi 2008 i fwynhau’r cyfleusterau ac ystyried y negeseuon diogelwch y maent wedi dod ar eu traws yn ystod eu hymweliad. Mae’r cyfleuster wedi bod yn ased gwerthfawr iawn i’r gymuned ac mae pobl o bob oed wedi elwa.  Er bod yr orsaf yn boblogaidd iawn rwyf yn annog unrhyw un sydd yn chwilio am leoliad i gynnal gweithgareddau gyda’r nos neu yn ystod y dydd i gysylltu â’r orsaf.”

 

Mae RythymTime Rhyl yn cynnal gweithgareddau bob bore dydd Gwener i tua 30 o bobl yn yr orsaf. Maent yn cynnal dosbarthiadau cerdd i fabanod, plant bach a phlant meithrin ar draws y DU i ddatblygu hyder, creadigrwydd a chydsymud.  Roedd ymwelydd rhif 100,000 yn perthyn i’r grŵp yma a chawsant gacen i ddathlu’r achlysur gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Mae nifer o ystafelloedd amlbwrpas ar gael i’w llogi yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn ystod y dydd a’r nos. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys mynediad i’r rhyngrwyd, swît TG, cyfleusterau fideo gynadledda, ac ardaloedd te a choffi, mae’r ffioedd yn gystadleuol iawn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01745 352722 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen