Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd pobl ifanc y rhanbarth

Postiwyd

 

 

Cymerodd pobl ifanc o Ysgol Friars, Bangor a Choleg Cambria, Wrecsam ran yng nghwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar.

         

Mae'r cwrs Ffenics wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo gydag integreiddio'r unigolion gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.

 

Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân Llanberis a’r Wyddgrug.

 

Meddai Pam Roberts, Cydlynydd y Ffenics: "Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn denu pobl ifanc, sy’n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar eu hymddygiad.

 

“Mae prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw, i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.

 

“Mae’r wythnos wedi cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth, lle’r oedd y bobl ifanc yn dysgu canlyniadau gweithredoedd, yna gweithgareddau yn y iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio gyda’n gilydd fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.

 

 “Caiff sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos eu harddangos mewn seremoni o gyflawniad, gyda Phrif Swyddog, aelodau’r Awdurdod Tân, rhieni, gwarcheidwaid a staff o’r ysgol yn bresennol.         

 

 “Amcanion pellach y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gryfhau eu cymhelliad a theimlo’n fwy cadarnhaol, sydd yn eu tro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

 

"Rydym yn gobeithio bod mynd ar y cwrs ysbrydoledig hwn wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl ifanc hyn, ac y byddant yn mynd â’r gwersi pwysig a ddysgwyd yn ôl gyda nhw a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen