Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio!’ yng Ngwynedd

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio – Meddwl yn Ddiogel, Coginio’n Ddiogel!’ yng Ngwynedd yfory (Dydd Mawrth 4ydd o Hydref) er mwyn helpu i leihau nifer y tanau coginio yn yr ardal ac addysgu trigolion lleol am bwysigrwydd coginio’n ddiogel.

 

Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru -  nod yr ymgyrch yw amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio ac y mae’n barhad o’r ymgyrch llwyddiannus a gynhaliwyd ar draws y Gogledd y llynedd.  

 

Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi’ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  - gall pob un o’r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.

 

Dyma pam y bydd diffoddwyr tân yn mynd o ardal i ardal dros yr wythnosau nesaf i siarad gyda siopwyr yng Ngwynedd am sut i gadw’n ddiogel yn y gegin.  Byddant yn rhannu brwshys golchi llestri am ddim i annog pobl i gadw’n ddiogel yn y gegin ac i gofio glanhau eu popty a’u gridyll yn rheolaidd. Bydd cyfle i bobl brofi’r hyn y maent yn ei wybod am ddiogelwch tân drwy gymryd rhan yn ein cwis diogelwch coginio gyda chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.

 

Bydd cwis coginio ar-lein hefyd yn helpu’r rhai na all ddod i’n gweld yn yr archfarchnadoedd i ddysgu mwy am ddiogelwch yn y gegin yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i amlygu’r nifer uchel o danau yn y cartref sy’n cael eu hachosi gan goginio a newid y modd y mae pobl yn ymddwyn er mwyn atal y tanau hyn rhag digwydd.  Fodd bynnag, er ein bod ni ar gael i gynnig cyngor ac i addysgu pobl mae’n rhaid i unigolion fod yn barod i wneud y newidiadau hyn er mwyn diogelu eu hunain yn well. 

 

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ei galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae’n hawdd iawn anghofio am fwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed neu’n cymryd meddyginiaeth, ac fe all hyn arwain at ganlyniadau difrifol.  Dydyn ni ddim eisiau cael ei gwahodd i ginio gyda chi a diffodd tân yn eich cegin!

 

"Felly, cymrwch sylw o’n hymgyrch, dewch draw i’n gweld yn eich archfarchnad leol - cewch frwsh golchi llestri defnyddiol iawn i’ch helpu i gadw eich offer coginio yn lân ynghyd â chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.  Os na ydyw’n bosib i chwi ddod draw i’n gweld, cymrwch ran yn ein cwis ar lein drwy fynd i www.facebook/northwalesfire.

 

"A pheidiwch ag anghofio – mae larymau mwg yn achub bywydau.  Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn ar 0800 169 1234.

 

 

Dyma air i gall gan Stuart ar sut i gadw’n ddiogel yn y gegin:

 

  • Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau’ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
  • Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân – gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
  • Cymrwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres
  • Gosodwch larymau mwg yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

 

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn yr archfarchnadoedd canlynol ar y dyddiadau isod;

 

  • 03/10/16 - Tesco Porthmadog
  • 10/10/16 – Iceland, Caernarfon
  • 13/10/16 – Home Bargains, Caernarfon
  • 14/10/16 – Marks and Spencer,  Bangor
  • 17/10/16  - Morrisons, Bangor
  • 21/10/16  - Iceland, Pwllheli

                                      

 

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter neu ewch i www.facebook/northwalesfire.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen