Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Swyddogion Heddlu yn ymweld â phrosiect diogelwch tân ar gyfer pobl ifanc

Postiwyd

Mae rhai o Uwch Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi ymweld â phrosiect sy’n ceisio lleihau tanau ac ailgyfeirio egni pobl ifanc tuag at weithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil.

Mae Prosiect Ffenics, sydd wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn gweithio gyda phobl ifanc sydd rhwng 13 a 17 oed yn eu haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân a chanlyniadau cynnau tanau’n fwriadol a gwneud galwadau ffug. 

Yn ystod y cwrs pum diwrnod mae’r bobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau y gwasanaeth tân ac achub megis gweithgareddau gyda phibellau dŵr, ymladd tân a chwilio ac achub. Maent hefyd yn dysgu sgiliau dydd i ddydd defnyddiol megis canlyniadau eu gweithredoedd, codi pwysau, rheoli risg a diogelwch tân.

Aeth Uwcharolygydd Sian Beck ac Arolygydd Dave Jolly i gwrs a oedd yn cael ei gynnal yn Y Waun i weld beth oedd yn cael ei wneud ac i ddangos clip o ffilm newydd sydd wedi cael ei gynhyrchu er mwyn hybu ymwybyddiaeth o danau sydd wedi bod yn cael eu cynnau’n fwriadol yn Wrecsam.     

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru i greu ffilm ar gyfer pobl ifanc rhwng 10-16 oed i hybu ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau tanau bwriadol yn ardal Wrecsam.

Meddai Arolygydd Sian Beck: “Mae Prosiect Ffenics yn enghraifft wych o asiantaethau yn cydweithio i annog ymddygiad positif ymysg pobl ifanc.

“Mae llosgi bwriadol wedi bod yn broblem barhaus yn Wrecsam ers nifer o flynyddoedd.  Mae llawer mwy o danau bwriadol wedi cael eu cynnau’n fwriadol yn y sir o gymharu â gweddill Gogledd Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.      

“Rydym yn gobeithio y bydd y cynlluniau rhagweithiol megis prosiect ffenics a ffilmiau addysgiadol sy’n cael eu cynhyrchu yn y gymuned ar gyfer y gymuned yn helpu i leihau achosion o losgi bwriadol yn yr ardal.”  

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn atynfa i bobl ifanc sy’n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar eu hymddygiad.

“Mae prosiect ffenics yn cynnig profiad unigryw i ddatblygu rhinweddau yr ydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt fel parch, cyfathrebu a ffydd.

“Yr wythnos hon mae’r bobl ifanc wedi cael cyfuniad o wersi yn y dosbarth lle maent wedi dysgu am ddiogelwch yn y cartref, a hefyd maent wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn yr iard lle’r oeddwn yn eu hannog i weithio fel tîm, asesu risg a gwrando ar gyfarwyddiadau.

“Nod y cwrs ydi helpu’r bobl ifanc i fod yn fwy hyderus a phositif am eu hunain, sydd yn ei dro yn mynd i’w helpu i fod yn ddinasyddion gwell.

“Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yma yn teimlo fel eu bod wedi cael profiad positif o fynychu prosiect Ffenics a’u bod yn teimlo fel y byddant yn gallu elwa ohono yn y dyfodol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen