Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Crimestoppers yn lansio ymgyrch i fynd i’r afael â thanau bwriadol yn Wrecsam

Postiwyd

Mae Crimestoppers heddiw yn lansio ymgyrch yn gofyn am help gan gymunedau lleol yn Wrecsam i helpu rhoi stop ar danau bwriadol.

 

Mae’r elusen annibynnol yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i geisio lleihau nifer yr achosion yn yr ardal, yn y gobaith o wneud cymunedau lleol yn fannau diogelach.

 

Mae Wrecsam wedi gweld cyfres o ymosodiadau tanau bwriadol mewn blynyddoedd diweddar, gyda nifer o geir, beiciau modur, sbwriel a deiliach yn cael eu rhoi ar dân yn fwriadol.

 

Y llynedd yn unig, deliodd diffoddwyr tân o Wrecsam gyda 55 o danau bwriadol ar un stâd, tra bo manylion a ryddhawyd yn gynharach eleni mewn ymgynghoriad gan y cyngor ar sut i ddelio â ‘phroblem tanau bwriadol’ Wrecsam yn dweud: “Mae tanau bwriadol wedi bod yn broblem barhaus yn Wrecsam am nifer o flynyddoedd. Mae lefel arwyddocaol uwch o danau bwriadol yn y sir o gymharu â gweddill Gogledd Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.”

 

Nawr mae Crimestoppers yn lansio ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o’r broblem tanau bwriadol yn Wrecsam, tra hefyd yn gofyn am wybodaeth gan bobl am y sawl sydd efallai’n cyflawni’r drosedd. Mae taflenni’n cael eu dosbarthu i gartrefi yn Wrecsam, a bydd ymgyrch radio a chyfryngau cymdeithasol yn digwydd i annog y cyhoedd i adrodd am y troseddau yn ddi-enw.

 

Bob blwyddyn mae mwy na 1000 o ddarnau o wybodaeth bwysig ar drosedd yng Ngogledd Cymru yn cael eu cyflwyno’n ddi-enw ac mae’r elusen wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn gwybodaeth gan y cyhoedd dros y chwe mis diwethaf.

 

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: “Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau anferth ar adnoddau’r gwasanaeth tân ac achub, gyda’n criwiau yn ymroddedig i’w cael dan reolaeth, sydd yn ei dro yn arwain at oedi wrth i ddiffoddwyr tân fynd i ddigwyddiadau sy’n bygwth bywydau. Efallai mai chi neu aelod o’ch teulu sydd angen ein help, a ninnau’n methu â dod atoch mor gyflym neu mor hawdd ag yr hoffem oherwydd bod yn rhaid i ni ddelio â thân bwriadol yn yr ardal.”

 

Meddai Gary Murray, Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Crimestoppers: “Yr hyn sy’n fy siomi i fwyaf yw bod y drosedd ddisynnwyr hon yn rhwystro’r heddlu rhag delio â throseddau mwy difrifol ac yn achosi risg di-angen i’n gwasanaeth tân.

 

“Hoffwn ofyn i bobl leol gysylltu â Crimestoppers, yn gwbl ddi-enw, a rhoi i ni’r wybodaeth a fedr ddod â’r sawl sy’n gyfrifol am y troseddau hyn o flaen eu gwell. Gyda help y cyhoedd, medrwn wneud Wrecsam yn lle diogelach i fyw a gweithio ynddo, felly cysylltwch â ni ar 0800 555 111 neu trwy’n gwefan, Crimestoppers-uk.org.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen