Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn atgoffa ffermwyr i ‘Alw cyn Llosgi!’

Postiwyd

Yn dilyn yr ymgyrch llosgi dan reolaeth lwyddiannus sydd wedi cael ei chynnal dros y pum mlynedd diwethaf, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â marchnadoedd da byw ar draws y rhanbarth er mwyn gwneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn ystyried ychydig o ragofalon tân syml a rhoi gwybod pan fyddant yn llosgi dan reolaeth.   

 

Mae'r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a  rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall. 

 

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir. 

 

Bydd staff yn ymweld â marchnadoedd da byw dros y misoedd nesaf, lle byddwn yn dosbarthu peryddion aer wedi eu dylunio’n arbennig a thaflenni gyda’r rhif i’w alw yn atgoffa tirfeddianwyr sut i losgi dan reolaeth yn ddiogel.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Pob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi dan reolaeth, rydym yn cael ein galw i nifer helaeth o alwadau heb angen ac achosion o danau dan reolaeth sydd oedd wedi mynd allan o reolaeth a dinistrio tir ac eiddo gwerthfawr yn ogystal â mynd ag amser nifer o ddiffoddwyr tân - felly fe benderfynom fynd â'r ymgyrch i'r marchnadoedd da byw a ffeiriau’r gaeaf er mwyn siarad gyda thirfeddianwyr.  Rydym wedi cael ymateb positif iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r rheiny sydd wedi gwrando ar ein negeseuon.

 

"Rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwn ac felly rydym yn erfyn ar i dirfeddianwyr roi gwybod i ni os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth drwy alw ein hystafell reoli ar 01931 522006. Bydd hyn yn ein helpu i osgoi galwadau diangen ac anfon criwiau allan yn ddiangen.

 

"Rydym hefyd yn gofyn i'r tirfeddianwyr hyn fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Mae tanau fel hyn yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r cyflenwad dŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar adnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys eraill.  

 

“Dilynwch y canllawiau isod os ydych yn bwriadu llosgi dan reolaeth:

 

 - Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael i reoli’r tân.

- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu a sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt

- Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad. 

- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn gofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen