Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwahoddiad arbennig i bobl hŷn ‘fwynhau paned am ddim’

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth ei fodd ei fod yn cynnal diwrnod arbennig ar gyfer pobl hŷn Ddydd Iau 1af Hydref, 2015 yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl – mae’n gwahodd pobl i ddod i gael paned am ddim a lledaenu’r gair ar ddiogelwch tân.

Dyma fenter newydd ar gyfer pobl hŷn yn benodol - sydd yn gynulleidfa fregus - i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân ac i roi cyngor ar gadw’n ddiogel yn y cartref.

Bydd y diwrnod yn cychwyn yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl am 9:30am ac mae’n agored i bobl hŷn.

Bydd paned a bisgedi ar gael a bydd cyfle i bobl siarad gyda diffoddwyr tân a staff cefnogol am ddiogelwch tân yn y cartref.

Byddwn yn trafod nifer o negeson pwysig am ddiogelwch tân dros baned – megis yr adnoddau sydd ar gael gan y gwasanaeth tân ac achub ar gyfer pobl hŷn sydd gan nam ar eu golwg neu nam ar eu clyw nad ydynt eisoes yn ymwybodol ohonynt.

Ar ôl trafod diogelwch yn y cartref bydd cyfle i’r gwesteion arbennig gael gweld yr orsaf dân weithredol.  Bydd cyfle i weld y peiriannau tân a gedwir yn y Rhyl a’r offer a ddefnyddir.  Bydd hefyd gyfle iddynt gwrdd â’r diffoddwyr tân eu hunain.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych, "Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu’r genhedlaeth hŷn i Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl. Rydym yn gweithio’n gale di wneud yn siŵr bod y cyhoedd ar draws pob grŵp oedran yn cael gafael ar wybodaeth hanfodol yn ymwneud â diogelwch tân.

"Dyma fydd y tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o’r fath mewn gorsaf dân, a bydd yn gyfle da i gwrdd ag ymwelwyr yn anffurfiol dros baned.

"Bydd pawb hefyd yn cael bocs o fagiau te sydd wedi eu hargraffu’n arbennig i fynd adref gyda hwy fel y gallant barhau i ledaenu’r gair am ddiogelwch tân a’r gefnogaeth yr ydym ni’n ei gynnig dros baned gyda’u teulu a’u ffrindiau."

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Diwrnod Pobl Hŷn cysylltwch ag Eleri Jones, Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref ar e-bost eleri.jones@gwastan-gogcymru.org.uk neu dros y ffôn 01745343431

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen